Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg Isaf Uwch - Cam E

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach, er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn hyderus wrth drafod y pynciau mwyaf cyffredinol, heb i chi orfod chwilio’n amlwg am eiriau, gan ddefnyddio rhai ffurfiau cymhleth ar frawddegau i wneud hynny.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr iaith a diwylliant yr Eidal.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau papurau newydd; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau’r myfyrwyr. Ymhlith y pynciau mae traddodiadau Eidalaidd; yr amgylchedd; pobl a'r Eidal.

Gramadeg: bydd myfyrwyr yn adolygu’r prif bwyntiau gramadegol, yn ôl y gofyn, gyda phwyslais ar ymarfer arddodiaid, y modd dibynnol, geirynnau, cymalau 'os' a sgwrs oddefol a pherthynol.

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi bod yn dysgu Eidaleg yn rhan-amser ers pedair blynedd, neu os ydych wedi cwblhau cwrs Eidaleg Safon Uwch yn ddiweddar.

Gall astudio’r cwrs hwn gyfrannu at y llwybr i radd mewn cyfieithu a’r llwybr i radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Mae'r llyfr ar gyfer y cwrs hwn i'w gadarnhau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.