Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Amgylcheddol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Newid yn yr hinsawdd, cynhesu byd-eang, llygredd plastig, dinasoedd yn suddo, cyfnodau o sychder.

Mae'r byd o'n cwmpas yn profi argyfwng, a byddwn ni – sy'n chwarae rhan yn ei ddinistriad – yn aml yn teimlo'n ddiymadferth yn wyneb trychineb sydd ar ddod.

Ond ceir corff cynyddol o lenyddiaeth sydd wedi ein rhybuddio o’r peryglon ac wedi annog gweithredu – o ffuglen am yr hinsawdd (cli-fi) i farddoniaeth a thraethodau; o memes ar-lein i newyddiaduriaeth dinasyddion.

Bydd y cwrs ysgrifennu creadigol hwn yn rhoi'r gallu i fyfyrwyr ddeall offer ysgrifennu amgylcheddol perswadiol a deallus, sydd â'r potensial i newid agweddau creiddiol pobl. Byddwn yn dysgu o ddetholiadau ac enghreifftiau, ond hefyd oddi wrth ein gilydd, wrth i bob unigolyn ychwanegu ei lais i’r alwad am newid. Yn ei hanfod, cwrs am obaith ydyw.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy 10 sesiwn dwy awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Mae’n debygol y bydd y gweithdai’n cynnwys:

  • Sgiliau ysgrifennu creadigol, terminoleg sylfaenol a chysyniadau sy’n berthnasol i ysgrifennu amgylcheddol
  • Archwilio tueddiadau, arddulliau a datblygiadau cyfoes ym maes ysgrifennu amgylcheddol a beirniadaeth ecolegol.
  • Trafodaethau o enghreifftiau cyhoeddedig o lenyddiaeth amgylcheddol a llenyddiaeth ffeithiol greadigol.
  • Adolygu, adborth, a myfyrio.
  • Cyhoeddi ysgrifennu amgylcheddol

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn datblygu portffolio o ysgrifennu yn cwmpasu genres gwahanol o fewn ysgrifennu amgylcheddol gyda thua 1500 o eiriau ynddo.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir amrywiaeth o ddarnau allan o destunau llenyddol amgylcheddol a ffeithiol-greadigol.

Mae’n bosibl y bydd y testunau canlynol yn gyflwyniadau defnyddiol i fyfyrwyr ond nid oes disgwyl iddyn nhw fod wedi gorffen unrhyw ddarllen cyn i’r cwrs ddechrau.

  • D’Avanzo, Charlene. "Climate Fiction as Environmental Education." Bulletin of the Ecological Society of America 99.4 (2018): 1-3.
  • Garrard, Greg. Ecocriticism. Routledge, 2011.
  • Mies, Maria, a Vandana Shiva. Ecofeminism. Zed Books, 1993.
  • Morton, Timothy. Ecology without nature: Rethinking environmental aesthetics. Harvard University Press, 2007.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.