Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Problemau Moesol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn ystyried detholiad o gwestiynau moesol sy'n berthnasol i'n bywydau fel unigolion, ac aelodau o gymunedau gwleidyddol a chymdeithasol.

Mae materion moesegol yn aml wrth wraidd dadleuon gwleidyddol a chymdeithasol.

  • A yw erthylu'n rhywbeth y gellir ei ganiatáu'n foesol?
  • A ddylid sensro pornograffi?
  • Pa ystyriaeth foesol sydd i'w rhoi i anifeiliaid nad ydynt yn fodau dynol?
  • Beth yw ein rhwymedigaethau i'r rheini sy'n dioddef newyn mewn gwledydd eraill?
  • Beth sy’n gwneud perthynas dda?
  • A yw marwolaeth yn rhywbeth mor ddrwg?
  • Dylech chi ddefnyddio meddalwedd sy’n rhad ac am ddim?
  • Pobl neu bengwiniaid?
  • Beth sydd o’i le â chaethwasiaeth?

Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ba arweiniad y gall athroniaeth ei gynnig, wrth i ni egluro’r cwestiynau a gwerthuso’r atebion a awgrymir.

Mae’r rhestr ganlynol o themâu enghreifftiol yn dangos y math o bynciau a allai gael eu trafod, ond bydd yr union faterion a ddetholir yn amrywio:

  • materion moesol e.e. erthylu (yn erbyn, o blaid, ymagweddau ffeministaidd), ewthanasia;
  • pornograffi a sensoriaeth (rhyddid mynegiant, trosedd yn erbyn niwed, ffeministiaid yn erbyn rhai sydd ddim yn ffeministiaid);
  • statws moesol anifeiliaid nad ydynt yn fodau dynol a’i oblygiadau;
  • ein rhwymedigaethau i eraill sy’n bellach i ffwrdd o gymharu â’n rhwymedigaethau i’n teulu agos, cymuned neu genedl
  • perthnasoedd dynol;
  • rolau rhyw;
  • gwerth a marwolaeth;
  • moeseg amgylcheddol;
  • cyfiawnder a chosb;
  • heriau amlddiwylliannedd;
  • moeseg addysgol;
  • materion moesegol mewn ymchwil;
  • anufudd-dod sifil e.e. gwrthwynebiad cydwybodol
  • moeseg cyfrifiadura e.e. meddalwedd am ddim, GPL, lladrad meddalwedd, rheoli hawliau digidol
  • terfysgaeth a hawliau sifil.

Gall y cwrs ddefnyddio astudiaethau achos a darnau o ffuglen a deunydd ffeithiol i esbonio’r amryw safbwyntiau damcaniaethol sydd i’w trafod gan annog pawb i roi enghreifftiau eraill o’i brofiad ei hun.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Unrhyw un a chanddo ddiddordeb yn y pwnc. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd byr a seminarau - pennir faint o’r naill a’r llall yn ôl anghenion y myfyrwyr sydd wedi cofrestru. Byddwn hefyd yn trafod enghreifftiau ac astudiaethau achos. Mae gobaith y bydd hynny’n helpu pawb i ddysgu a deall y syniadau sydd i’w trafod yn ystod y cwrs. Byddwn ni’n ceisio helpu pawb i feithrin medrau deallusol trwy drafodaethau yn y dosbarth, darllen a gwaith cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Traethodau neu orchwylion ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yn ein barn ni yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y cewch aseiniadau ysgrifennu, fel cwestiynau sydd angen ymatebion prydlon iddynt, neu gallech ddewis ysgrifennu traethawd. Mae ein hasesiadau’n hyblyg i weddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd darllen ac adnoddau yn amrywio yn ôl y themâu penodol yr eir i’r afael â nhw yn y modiwl. Gallai’r antholeg canlynol fod o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n ystyried y modiwl hwn:

  • Peter Singer (ed.), Applied Ethics (Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1986)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.