Ewch i’r prif gynnwys

Dull rheoli: Damcaniaeth a Thystiolaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r modiwl hwn yn dysgu myfyrwyr i ddeall a gwerthuso’n feirniadol honiadau damcaniaethwyr rheoli gan ddefnyddio seiliau tystiolaeth meintiol ac ansoddol.

Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i amrediad o ddulliau dehongli, dadansoddi a chyflwyno data.

Mae hwn yn fodiwl craidd ar y Llwybr at radd mewn Rheoli Busnes, Marchnata a Chyfrifeg.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach. Mae 2 ysgol dydd Sadwrn.

Gwaith cwrs ac asesu

Ar y Rhaglen Llwybr, cewch asesiadau ffurfiol. Bydd y rhain ar ffurf profion dosbarth, aseiniadau ysgrifenedig, dyddlyfr cwrs neu bortffolio.

Mae eich asesiadau wedi’u llunio i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach yng nghyd-destun gradd. I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Gwaith ysgrifenedig a phrawf mewn dosbarth fydd y dulliau asesu ar gyfer y modiwl hwn.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir ar amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.