Ewch i’r prif gynnwys

Moeseg Rhyfel

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Ai moethusbeth yw moesau adeg heddwch? A yw heddychiaeth yn gywir?

  • A oedd Grotius yn iawn i wahaniaethu rhwng rhyfeloedd cyfiawn ac anghyfiawn?
  • Ai dim ond gwladwriaethau a all mynd i ryfel yn gyfreithlon?
  • Os felly, a oes modd cyfiawnhau chwyldroadau a rhyfeloedd cartref o gwbl?
  • A all unrhyw beth gyfiawnhau’r defnydd o arfau niwclear, biolegol neu gemegol?
  • Os bydd robotiaid marwol yn lladd ar gam, pwy sy’n gyfrifol?
  • A yw marwolaethau ymhlith consgriptiaid yn llai drwg na marwolaethau ymhlith anymladdwyr?
  • A oes rhaid ymdrechu i osgoi niweidio sifiliaid, hyd yn oed os byddant yn cynorthwyo'r gelyn yn fwriadol? Pwy sydd â’r hawl i fod â statws carcharor rhyfel?
  • Ai dim ond pobl ar yr ochr sy’n colli oherwydd eu lwc drwg yw troseddwyr rhyfel?
  • Ai ‘cyfiawnder y buddugwyr’ yw treialon ôl-ryfel? A yw'n deg barnu dewisiadau a wnaed yn 'niwl rhyfel' yn ôl safonau adeg heddwch?
  • Pa rwymedigaethau sydd arnom i'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro?
  • A gaiff gwladwriaethau wahardd dinasyddion rhag ymladd rhyfeloedd pobl eraill? Pryd y gellir cyfiawnhau consgripsiwn?
  • Sut y dylid trin gwrthwynebwyr cydwybodol?

Byddwn yn archwilio cwestiynau moesegol sy'n codi wrth ddechrau rhyfel, mynd ar drywydd rhyfel neu ymateb i ryfel. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth neu ryfela.

Dysgu ac addysgu

Maes Llafur

Mae'r canlynol yn sampl o'r mathau o gwestiynau a materion y mae'r modiwl yn eu harchwilio:

Cwestiynau sylfaenol

  • Ai moethusbeth yw moesau adeg heddwch? A yw rhyfel yn cael ei werthuso’n foesegol mewn ffordd briodol?
  • Ai heddychiaeth yw’r unig safbwynt moesol credadwy, neu a oes achos cyfiawn dros rai rhyfeloedd?
  • A oes unrhyw wahaniaeth moesol sylfaenol rhwng lladd i hunanamddiffyn neu amddiffyn eraill a lladd ar orchymyn i amddiffyn eich cymuned neu eich gwlad?
  • Pryd mae’n ganiataol, anghaniataol neu’n angenrheidiol i wasanaethu yn y lluoedd arfog neu’n rhan o grŵp arfog anwladwriaethol?

Theori Rhyfel Cyfiawn

  • A ddylem ganolbwyntio ar ofynion ar gyfer sefydliadau teg, fel fframweithiau deddfwriaethol a gweithdrefnau barnwrol?
  • A ddylem ganolbwyntio ar y safonau moesegol sy'n briodol wrth werthuso gweithredoedd, strategaethau a pholisïau penodol?
  • A yw rhai dulliau neu strategaethau bob amser yn anghywir, ni waeth pa mor gyfiawn yw achos y person ac eithafrwydd y sefyllfa?
  • A all y defnydd o arfau niwclear gael ei gyfiawnhau weithiau?
  • Beth am y defnydd o arfau biolegol?
  • Beth am arfau cemegol?

Materion arbennig

  • A oes rhwymedigaethau penodol arnom i blant mewn gwledydd lle ceir gwrthdaro?
  • Sut y dylid trin personél meddygol?
  • Sut y dylid trin newyddiadurwyr?
  • Pryd mae consgripsiwn yn ganiataol?

Trydydd partïon

  • A oes unrhyw reidrwydd cyffredinol ar wladwriaethau ymyrryd â rhyfeloedd rhwng gwladwriaethau nad oes arnynt unrhyw rwymedigaethau cytundebol iddynt?
  • Pa rwymedigaethau sydd ar wladwriaethau i sifiliaid sy'n ffoi rhag gwrthdaro?
  • A gaiff gwladwriaethau wahardd eu dinasyddion eu hunain rhag ymladd mewn rhyfeloedd nad ydynt hwy eu hunain yn rhan ohonynt?

Yn rhan o’r cwrs, gellir defnyddio astudiaethau achos a darnau o ffuglen a deunydd ffeithiol i esbonio’r safbwyntiau damcaniaethol dan sylw, ac mae croeso i fyfyrwyr roi enghreifftiau pellach o’u profiadau eu hunain.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd gofyn i chi ysgrifennu tua 2,000 o eiriau yn rhan o dri aseiniad (fformiwleiddio cwestiwn, astudiaeth achos a thraethawd).

Bydd cyngor a chymorth yn cael eu rhoi ar gyfer yr aseiniadau, a byddwch yn cael adborth manwl sy’n tynnu sylw at eich cryfderau a phethau i’w gwella yn eich gwaith.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y tiwtor yn rhannu rhestr gynhwysfawr o ddeunyddiau darllen cyn i'r cwrs ddechrau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.