Ewch i’r prif gynnwys

Ymfudo a Ffurfio Prydain Amlddiwylliannol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae gan ymfudo hanes cyn hired â dynol ryw ei hun.

Byddwn yn archwilio'r berthynas rhwng ymfudo a'r modd y mae cymdeithasau o fewn Ynysoedd Prydain wedi'u ffurfio'n ddiwylliannol, gan ddechrau â'r cyfnod canoloesol a'r cyfnod modern cynnar, ond â'r prif ffocws ar gyfnod hanes imperialaidd i hyd at y cyfnod ôl-drefedigaethol.

Byddwch yn archwilio'r ystod o gymunedau sydd wedi teithio i, a setlo o fewn cymdeithas Prydain, hanes integreiddio neu arwahanu, y diwylliant a a gafodd eu greu ac ymatebion cadarnhaol neu elyniaethol.

Caiff sylw penodol ei roi i'r hanes economaidd, milwrol, crefyddol a gwleidyddol sy'n sail i'r symudiad hwn o bobl, yn ogystal â'r ffyrdd y gall haneswyr olrhain (ar un llaw) y newidiadau cymdeithasol wnaeth ysgogi ymgyrchoedd ar gyfer hawliau cyfartal ac (ar y llaw arall) yr hanes sy'n datblygu o ran hiliaeth a gwrth-hiliaeth.

Byddwn yn ystyried y ffyrdd y mae cenedlaethau olynol o haneswyr Ynysoedd Prydain wedi ystyried gwahanol gymunedau, yn cyflwyno cysyniadau am y ffyrdd trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol y mae hanes wedi'i ysgrifennu, ac y gellir ei ysgrifennu, ac yn archwilio sut all canfyddiadau ynghylch hil a rhywedd ffurfio safbwyntiau am orffennol, presennol a dyfodol Prydain aml-ddiwylliannol, a'r hunaniaethau o'i mewn.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu ar-lein, trwy ddarlithoedd wedi'u recordio a seminarau a gweithdai ar-lein fydd yn cynnwys trafodaeth ddosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad a throsolwg o'r cwrs
  • Ymfudiadau i Brydain Ganoloesol
  • Mudo a Phrydain yn y Cyfnod Modern Cynnar
  • Ymerodraeth a'i Etifeddiaeth: Cymuned Asiaidd Prydain
  • Ymerodraeth a'i Etifeddiaeth: Cymuned Affricanaidd Prydain
  • Prydain Amlddiwylliannol a Rhyfel
  • Cenhedlaeth Windrush a'r 20fed Ganrif Diweddar
  • Naratifau Annhraddodiadol ac Ysgrifennu Hanes

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • dadansoddiad ffynhonnell fer
  • traethawd 1000 o eiriau

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • D. Dabydeen, J. Gilmore and C. Jones (eds), The Oxford Companion to Black British History (Oxford, 2007)
  • J.T. Davidann a M.J. Gilbert, Cross-Cultural Encounters in Modern World History, 1543-Present (Llundain, 2019)
  • T.M. Endelman, The Jews of Britain, 1656 to 2000 (Berkeley a Llundain, 2002)
  • P. Fryer, Staying Power: The History of Black People in Britain (Llundain, 1982)
  • Our Migration Story: https://www.ourmigrationstory.org.uk/
  • P. Panayi, An Immigration History of Britain: Multicultural Racism Since 1800 (Harlow, 2010)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.