Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Visual Basic 2010

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs yn gyflwyniad cyffredinol da i raglennu cyfrifiadurol, gan ganolbwyntio yn benodol ar becyn Visual Basics 2010.

Mae’r pynciau iaith Basic a drafodir yn cynnwys mathau o ddata, gweithredwyr, defnyddio datganiadau rheoli ailadroddol ac amodol, swyddogaethau mathemategol a llinyn, rhesi, ffeiliau a thrin gwallau.

Mae pynciau’r pecyn Visual Basic 2010 yn cynnwys y gwahaniaeth rhwng Rhaglenni Consol a Rhaglenni Ffurflenni Windows, rheolaethau ffurflenni, digwyddiadau, amseryddion, y system gydlynu graffigol a chyrchu taenlenni Excel.

Bydd gwaith a asesir yn cynnwys ysgrifennu ceisiadau rhaglenni consol Visual Basic a Windows Forms Applications i ddatrys amrywiaeth o broblemau.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Mae'r maes llafur yn cynnwys:

  • Mathau o ddata
  • Rhifyddeg a gweithredwyr amodol
  • Defnyddio datganiadau rheoli iterus ac amodol
  • Ffwythiannau mathemateg a ffwythiannau llinyn
  • Araeau
  • Ffeiliau
  • Trin gwallau
  • Y gwahaniaeth rhwng Rhaglenni Consol a Rhaglenni Ffurflenni Windows
  • Rheolyddion ffurfiau
  • Digwyddiadau
  • Amseryddion
  • Y system gyfesurynnau graffigol
  • Cyrchu taenlenni Excel

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Bydd gwaith a asesir yn cynnwys ysgrifennu ceisiadau rhaglenni consol Visual Basic a Windows Forms Applications i ddatrys amrywiaeth o broblemau. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.