Llwybr at radd mewn cyfieithu

Caiff ein llwybr at radd mewn cyfieithu ei addysgu gan bobl sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol yn y pwnc dan sylw, a’r gallu i gefnogi, ysbrydoli a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda chi.
Sut mae'n gweithio
Mae’r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd. Y nod yw rhoi’r sgiliau ieithyddol a’r paratoad deallusol sydd eu hangen arnoch i astudio ar gyfer gradd mewn cyfieithu.
Gallwch ddewis canolbwyntio ar un iaith ac astudio anrhydedd sengl neu astudio dwy iaith fel cydanrhydedd.
Bydd angen i chi ennill 60 o gredydau mewn un iaith, neu 30 o gredydau yn y ddwy iaith ar gam E neu uwch.
Mae'r opsiynau modiwl iaith yn cynnwys
Ffrangeg
- Ffrangeg Uwchraddol Is - Cam E (30 o gredydau)
- Ffrangeg Uwchraddol - Cam F (30 o gredydau)
- Ffrangeg Uwchraddol Uwch - Cam H (30 o gredydau)
Almaeneg
- Almaeneg Uwchraddol Is - Cam E (30 o gredydau)
- Almaeneg Uwchraddol - Cam F (30 o gredydau)
Eidaleg
- Eidaleg Uwchraddol Is - Cam E (30 o gredydau)
- Eidaleg Uwchraddol - Cam F (30 o gredydau)
Sbaeneg
- Sbaeneg Uwchraddol Is - Cam E (30 o gredydau)
- Sbaeneg Uwchraddol - Cam F (30 o gredydau)
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.
Cost
Gwybodaeth am gyllid ac arian.
Cyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn cysylltwch â’r canlynol:
Ieithoedd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.