Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglennu Windows PowerShell

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y modiwl hwn yw darparu sylfaen gadarn mewn rhaglennu, ac mae wedi ei strwythuro fel y deuir i werthfawrogi arfer da yn ogystal a chaffael hanfodion iaith raglennu Windows PowerShell.

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol am raglennu cyfrifiadurol. Ers Windows 7, mae iaith sgriptio o'r enw PowerShell ar gael, sy'n caniatáu i defnyddwyr greu sgriptiau personol yn debyg i'r rheini sydd wedi bod ar gael yn Linux ers blynyddoedd lawer.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am gael cyflwyniad i raglennu Windows PowerShell.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy. Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu creu, trefnu a gweithredu sgriptiau PowerShell.

Y Maes Llafur

  • ailgyfeirio mewnbwn ac allbwn
  • pibellau
  • defnyddio gorchmynion MS-DOS i greu ffeil swp MS-DOS
  • gweithredu a threfnu ffeiliau swp MS-DOS
  • defnyddio cmdlets PowerShell i greu sgriptiau PowerShell
  • gweithredu a threfnu sgriptiau PowerShell
  • gweithredwyr rhifyddol
  • gweithredwyr cymharol
  • defnyddio datganiad ‘If...Else’
  • Defnyddio datganiadau ‘While’, ‘Do...While’, ‘Until’ a ‘Do...Until’.
  • defnyddio datganiad ‘For’
  • defnyddio datganiadau ‘Foreach’ a ‘Switch’
  • fformatio allbwn
  • defnyddio dadleuon llinell orchymyn
  • defnyddio araeau
  • creu ffwythiannau
  • dadfygio sgriptiau

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

    • Windows PowerShell 3.0 by Ed Wilson (downloadable from internet as PDF)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.