Ewch i’r prif gynnwys

Parler franc

Hyd 28 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Hamid Sahki and Nadia Nebot
Côd y cwrs FRE23A5529A
Ffi £420
Ffi ratach £336 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

21-23 Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Ymrestrwch nawr

Ce cours est d'un niveau supérieur avancé qui s'adresse aux étudiants qui souhaitent perfectionner leur connaissance de la langue, de la société et de la culture française.

Organisé afin de pratiquer tous les aspects de la langue (Oral, Ecrit, Audio), ce cours inclura de nombreuses conversations en classe, animé de débats sur des thèmes actuels de société, arts, patrimoine, histoire, musique, culture, sciences et techniques: tous les sujets sont abordés et analysés (niveau DALF C1)

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr a chanddynt sgiliau iaith datblygedig (Safon Uwch neu uwch) sy'n gallu cynnal sgwrs gyffredinol yn Ffrangeg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Ffrangeg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol ond efallai y byddwch yn cael profion dosbarth. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.