Realaeth Hudol
Hyd | 9 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Gemma Scammell | |
Côd y cwrs | LIT24A5448A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Realaeth hudol yw un o symudiadau llenyddol mwyaf unigryw'r ganrif ddiwethaf. Yn debyg i straeon tylwyth teg, mae nofelau realaidd hudol a straeon byrion yn cymylu'r llinell rhwng ffantasi a realiti.
Yn aml mae realaeth hudol chwareus ac afieithus hefyd yn chwarae rhan enfawr wrth dynnu sylw at ormes economaidd a gwleidyddol De’r Byd.
Yn y cwrs hwn, byddwch yn astudio realaeth hudol fel genre llenyddol. Byddwch yn dadansoddi detholiad o destunau realaidd hudol o bob cwr o'r byd, gan gynnwys awduron fel awdur mwyaf adnabyddus America Ladin ac enillydd Gwobr Nobel, Gabriel Garcia Marquez, a Haruki Murakami sydd wedi ennill sawl gwobr yn Japan.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr drwy Zoom, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau seminar, gwaith grŵp bach a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Bydd y pynciau'n canolbwyntio ar destunau llenyddol a gallant gynnwys:
- Lleoliadau realistig a bydoedd cyfarwydd
- Elfennau hudol – o wrthrychau sy’n siarad i gymeriadau sydd wedi marw a thelepathi
- Gwybodaeth gyfyngedig – hud a lledrith heb esboniad a normaleiddio
- Grym a Gwleidyddiaeth Beirniadaeth – o ormes economaidd i Imperialaeth Americanaidd
- Strwythurau plot unigryw a chrymliniau stori annodweddiadol
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu, a all gynnwys adolygiadau, dadansoddiadau a thraethodau byr. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1800 o eiriau
Deunydd darllen awgrymedig
Darllen Hanfodol:
- Ahmed Saadawi, Frankenstein in Bagdad (2014) (cyfieithiad gan Jonathan Wright)
- Franz Kafka, The Metamorphosis (1915)
- F. Scott Fitzgerald, The Curious Case of Benjamin Button (1922)
- Neil Gaiman, The Ocean at the End of the Lane (2013).
- Gabriel García Márquez, A Very Old Man with Enormous Wings (1968)
- Haruki Murakami, The Wind-Up Bird Chronicle (1994)
- Salman Rushdie, Midnight’s Children (1981)
Deunydd Darllen Ychwanegol a Ddewiswyd
- Maggie Bowers Magic(al) Realism (2004)
- Amaryll Beatrice Chanady Magical Realism and the Fantastic: Resolved Versus Unresolved Antinomy (1985)
- Wendy B. Faris Ordinary Enchantments (2004)
- Wendy B. Faris a Lois Parkinson Zamora (goln.) Magical Realism: Theory, History, Community (1995)
- Wen-chin Ouyang a Stephen M. Hart A Companion to Magical Realism (2005)
- Christopher Warnes Magical Realism and the Postcolonial Novel: Between Faith and Irreverence (2009)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.