Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Cyllid I

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae angen i reolwyr a chyflogwyr ar bob lefel fod yn gymwys ar lefel rheoli ariannol.

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr i ddeall yr agweddau ariannol sydd eu hangen i reoli’r busnes/adran. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol. Cofrestrwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.

Nodau:

Cynnig dealltwriaeth o'r egwyddorion a phrosesau rheoli ariannol i ddefnyddwyr anarbenigol.

Amcanion:

Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylai myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol cadw llyfrau a chyfrifeg. Yn benodol:

  • cofnodi trafodion yn y llyfrau cyfrif
  • paratoi gweddill prawf
  • prisio asedion at ddibenion cyfrifon
  • paratoi Cyfrifon Gweithgynhyrchu, Masnachu ac Elw a Cholled, a'r Fantolen
  • paratoi Cyllideb Ariannol

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs yn agored i bawb, does dim angen cymwysterau blaenorol.

Dysgu ac addysgu

  • Rhaglen Darlithoedd:
  • Cyflwyniad a chadw llyfrau cofnod dwbl
  • Llyfr arian parod a llyfrau is-gwmnïau
  • Llyfr arian parod a gweddill prawf
  • Hunanfasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig
  • Prisio asedau, croniadau a rhagdaliadau
  • Cyfrif gweithgynhyrchu, masnachu ac elw a cholled, a'r fantolen
  • Cyllideb arian parod/llif arian a chronfeydd a chymhwyso cronfeydd
  • Cyflwyniad i gyfrifon cyfunol
  • Cyfrifon wedi'u cyhoeddi
  • Ailgrynhoi a chasgliad y cwrs

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys: yr atebion ysgrifenedig i dri ymarfer a ddyluniwyd er mwyn profi gwybodaeth y myfyriwr am y pynciau a gwmpesir yn y cwrs. Bydd un ymarfer fesul tair sesiwn, mwy neu lai, ac mae'r ymarfer cyntaf i'w gwblhau fel ymarfer dosbarth.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  1. Pendlebury, M a Groves, R 2003. 6ed argraffiad Company Accounts, Analysis, Interpretations and Understanding Llundain: Thomson Books
  2. Attrill, P, Harvey, D a McLaney, E 2000 Accounting for Business Butterworth Heinemann
  3. Thomas, A 2009 6ed argraffiad Introduction to Financial Accounting McGraw Hill Publishing Co.
  4. Barrow, C 2001 Financial Management for Small Businesses Kogan Page
  5. Burrow, P 2001 The Best Laid Business Plans - How to write them, How to pitch them Virgin Business Guides cyhoeddedig gan Mackays of Catham plc
  6. Burns, P 2006 2il argraffiad Entrepreneurship and Small Business Chippenham, Anthony Rowe Ltd

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.