Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd, Metropolis Cymru: Pobl, Lleoedd, Hanes

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

O'r fryngaer yng Nghaerau-Elái i oresgyniadau Rhufeinig a Normanaidd ac adeiladu Castell Caerdydd, ac ymlaen i Ddiwygiad, Rhyfel Cartref, glo a diwylliant, mae'r cwrs hwn yn archwilio twf a datblygiad Caerdydd o'i wreiddiau hyd heddiw.

Bydd ein taith yn dechrau gyda thrigolion cynharaf Caerdydd a sut y datblygodd yr anheddiad rhwng dyfodiad y Rhufeiniaid a datblygiad tref ganoloesol yn dilyn goresgyniad y Normaniaid.

Byddwn yn mynd ymlaen i ystyried twf Caerdydd yn dref sirol, ei thrawsnewid a'i rôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel prifddinas allforion glo y byd, ei phrofiad o'r ddau Ryfel Byd, a'i hanes gwleidyddol, cenedlaethol a diwylliannol mwy diweddar wrth iddi dyfu i fod yn brifddinas Cymru.

Byddwn yn archwilio'r adeiladau a'r bobl sydd wedi llunio'r ddinas ac yn trafod sut mae ei hunaniaeth wedi gweddnewid mewn ymateb i ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu dros naw sesiwn dwy awr o hyd, ac yn cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  1. Trigolion Cynharaf Caerdydd
  2. Caerdydd y Normaniaid: Mechdeyrnedd Tramor a’r Cymry Trafferthus
  3. Bywyd yng Nghaerdydd Ganoloesol
  4. Caerdydd Fodern Gynnar: Ad-drefnu, Diwygiad a Gwrthryfel
  5. Caerdydd Fodern Gynnar: Newid, Datblygu a Chynnydd
  6. Mae'r Ddraig yn Deffro: Caerdydd y Porthladd Glo
  7. Nodweddion Trefol a Mannau Trefol, Twf Trefol a Statws Dinas
  8. Tensiwn, Protest a Chynnen: Caerdydd yn y Rhyfel
  9. Caerdydd Ers 1945: Rôl Newydd a Hunaniaeth Hewydd
  10. Beth yw'r dyfodol i Gaerdydd?

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • ffynhonnell fer
  • darn 1000 o eiriau o ysgrifennu hanes cyhoeddus, fel blog

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Dennis Morgan, The Cardiff Story: A History of the City from the Earliest Times to the Present (Tonypandy: Hackmann, 2001)
  • Dic Mortimer, Cardiff: The Biography (Stroud: Amberley, 2014)
  • Nick Shepley, The Story of Cardiff (Stroud: The History Press, 2014)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.