Materion Cyfoes yn Ewrop
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Roel Van Der Velde | |
Côd y cwrs | PLT24A5483A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae'r cwrs hwn yn bwrw golwg feirniadol ar Ewrop gyfoes. Mewn deg wythnos, mae'r modiwl hwn yn edrych ar sefyllfa bresennol, gweithredwyr ac amgylchedd, Ewrop.
Drwy drafod 9 prif thema mae'n rhoi trosolwg eang o Ewrop wedi’r Rhyfel Oer, ei phobl a'i sefydliadau, a'i hamgylchedd.
Mae hwn yn fodiwl sy’n werth 10 credyd ar y Llwybr i radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Mae hefyd yn gwrs annibynnol sy’n agored i bawb.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- Nodi a gwerthuso datblygiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol cyfredol yn Ewrop
- Dadansoddi prosesau hanesyddol o gydgyfeirio a dargyfeirio
- Gwerthuso pwysigrwydd sefydliadau Ewrop mewn perthynas ag integreiddio Ewropeaidd, a rôl ryngwladol Ewrop.
- Creu dadansoddiad cymharol o ddwy ffynhonnell
- Trafod y gwahanol brofiadau ar draws Ewrop o ran materion Ewropeaidd cyfredol
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd yr asesiad ar gyfer y modiwl yn cynnwys cynllun traethawd (30%) a thraethawd (70%).
Deunydd darllen awgrymedig
- Chad Damro, Elke Heins, Drew Scott (eds), 2021. European Futures. Challenges and Crossroads for the European Union of 2050 (London: Routledge),
- The Spotlights Series by the journal Contemporary European History
- Darian Meacham, Nicolas de Warren, 2021. The Routledge Handbook of Philosophy and Europe (London: Routledge)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.