Ewch i’r prif gynnwys

Historia, política y tradiciones españolas

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Este curso está orientado para estudiantes de nivel avanzado que quieren seguir practicando sus destrezas auditivas y orales además de adquirir nuevos conocimientos históricos y culturales.

En este curso se verán de historia contemporánea de España y América Latina, política actual, y tradiciones españolas del pasado y presente.

Para cubrir estos temas se utilizará una gran variedad de recursos tales como presentaciones, recortes de prensa, documentales, documentos de televisión y lecturas.

Algunos temas se cubrirán con el visionado de películas y documentales en los hechos históricos.

Mediante las películas los alumnos podrán analizar el contexto histórico y practicar su gramática y vocabulario mediante actividades orales y escritas sobre la película vista en clase

Los estudiantes tendrán la oportunidad de practicar sus destrezas orales y escritas mediante discusiones, debates y presentaciones cortas.

También podrán practicar y mejorar sus conocimientos léxicos y gramaticales a través de comentarios de texto, redacciones y actividades de gramática y vocabulario.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr Sbaeneg uwch sydd am ehangu eu gwybodaeth o Hanes Sbaen a sgiliau llafar a chlywedol Sbaeneg.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis hanes a materion diweddar Sbaen, gwleidyddiaeth Sbaen a thraddodiadau Sbaenaidd y gorffennol a'r presennol.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddogfennau ac adnoddau megis erthyglau yn y wasg, testunau a rhaglenni dogfen.

Ar gyfer rhai pynciau byddwn yn defnyddio ffilmiau a rhaglenni dogfen sy’n seiliedig ar bynciau a drafodir yn y dosbarth.

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymarfer a gwella eu geirfa, eu gramadeg a’u hiaith lafar drwy ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig a llafar yn y dosbarth.

Bydd myfyrwyr yn defnyddio'r labordy iaith yn rheolaidd fel bod pob un ohonynt yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn ôl eu pwysau eu hunain

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr uwch sy'n dymuno datblygu eu sgiliau llafar a gwrando yn Sbaeneg.  Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.