Seryddiaeth ar Waith
Hyd | 6 cyfarfod | |
---|---|---|
Tiwtor | Prof Paul Roche | |
Côd y cwrs | SCI24A5544A | |
Ffi | £175 | |
Ffi ratach | £140 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu meysydd amserol seryddiaeth a gwyddoniaeth y gofod, gan gynnwys datblygiadau diweddar o ran astudiaethau planedau, sêr, galaethau a chosmoleg.
Bydd y gweithdai’n cynnwys darlith, a fydd yn cael ei hategu gan weithgareddau ymarferol ac ar-lein. Cymysgedd o addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein.
Dysgu ac addysgu
Addysgir trwy gyfwng cyflwyniadau byr sy’n amlinellu deunydd y pwnc ac sy’n rhoi’r cynnwys hanfodol, ynghyd ag ymchwil ymarferol ar y rhyngrwyd ar gyfer astudiaeth fwy manwl.
Bydd gwefannau amrywiol a phecynnau meddalwedd yn cael eu dangos, a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i gynnal eu hymchwiliadau seryddol eu hunain.
Bydd myfyrwyr yn dysgu drwy ddarlithoedd, defnyddio TGCh ac ymchwiliadau ymarferol. Bydd digon o gyfleoedd ar gyfer sesiynau holi ac ateb, a thrafodaethau yn ymwneud â thema'r gweithdy penodol.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysgu.
Mae ein dulliau ni wedi’u dylunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
Kaufmann W.J. & Freedman R.A., Universe (Argraffiad 8., Freeman 2007)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.