Gwella eich Sbaeneg
Hyd | Dydd Llun 19 Mehefin i Ddydd Gwener 23 Mehefin 2023 | |
---|---|---|
Tiwtor | Cristina Moroy | |
Côd y cwrs | SPA22A4201A | |
Ffi | £140 | |
Ffi ratach | £120 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 21-23 Ffordd Senghennydd |
Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud dwy flynedd o astudiaethau rhan-amser neu os ydych wedi ennill TGAU mewn Sbaeneg yn ddiweddar.
Byddwch yn cymryd rhan mewn sgyrsiau a bydd cymhorthion clyweledol yn cefnogi eich sgiliau gwrando.
Bydd y pynciau’n cynnwys:
- cwrdd â phobl newydd ar eich gwyliau
- Traddodiadau Sbaen
- beth wnaethoch chi ar eich gwyliau y llynedd
- cynllunio eich gwyliau nesaf yn Sbaen
- America Ladin
- ffiestas yn Sbaen.
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer. Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau cyfeillgar a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Bydd 18 awr o sesiynau i gyd, gan gynnwys cymysgedd o sesiynau byw a rhai paratoadol. Byddwch yn cael y ddolen i'r sesiwn Zoom ychydig ddyddiau cyn i'r cwrs ddechrau.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs
Gwaith cwrs ac asesu
Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.
Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein platfform dysgu ar-lein.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.