Llywio drwy Labrinth Minoa Gwareiddiad Creta'r Oes Efydd
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Christina Hatzimichael Whitley | |
Côd y cwrs | AAA23A5386A | |
Ffi | £186 | |
Ffi ratach | £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae gwybodaeth boblogaidd am Greta'r Oes Efydd wedi'i chymylu gan fythau am arwyr ac angenfilod.
Mae'r chwedleuon hyn yn adnabyddus iawn ond yn rhwystro ein dealltwriaeth o’r Minoaid, gwareiddiad hirhoedlog a chyfareddol a wnaeth ddominyddu Creta am hyd at ddwy fil o flynyddoedd.
Gan mai ychydig o ffynonellau ysgrifenedig (ac ar y cyfan heb eu dehongli) sydd wedi goroesi o'r cyfnod, mewn archaeoleg y gellir dod o hyd i'r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r diwylliant dirgel hwn.
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno chi i gelf ac archaeoleg yr Oes Efydd Gynnar, Canol a Hwyr yng Nghreta (c.3000-1100 C.C.). Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â materion ehangach fel datblygiad gwladwriaethau palasau yn yr ail fileniwm C.C., natur y gymdeithas, yr economi, credoau crefyddol a defodau claddu a'r damcaniaethau croes am dranc y gwareiddiad Minoaidd yn y pen draw.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i chi drwy Dysgu Canolog.
- Creta mewn mytholeg, chwedloniaeth a hanes. Cyflwyniad i’r cwrs ac i Archaeoleg Egeaidd
- Ymdarddiad gwareiddiad: Damcaniaeth Datblygiad Mewnol
- Yr oes Efydd gynnar yn Crete
- Yr Hen Balasau: ymddangosiad gwareiddiad?
- Ardal y Môr Egeaidd a’r Dwyrain yn yr ail fileniwm C.C.
- Y Palas Newydd, Creta: Palasau a Gwladwriaethau
- Arferion claddu yng Nghreta Oes yr Efydd
- Crefydd yn Ardal y Môr Egeaidd yn Oes yr Efydd
- Celf Minoaidd a Myseneaidd
- Creta ar ôl y Palasau Newydd Cyfnod y Palasau Terfynol ac ar ôl y Palasau
Gwaith cwrs ac asesu
I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd aseiniadau'n cynnwys dwy dasg ysgrifenedig o 500 a 1,000 o eiriau a byddant yn cynnwys beirniadaeth ffynhonnell neu adolygiad dogfennol a thraethawd.
Deunydd darllen awgrymedig
- Cullen, T. 2001. Aegean Prehistory: a review. Boston: Archaeological Institute of America.
- Dickinson, O.T.P.K. 1994a. The Aegean Bronze Age. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
- Preziosi, D. a L. Hitchcock. 1999. Aegean Art and Architecture. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.