Ewch i’r prif gynnwys

Gerddi a Ffordd o Fyw'r Ugeinfed Ganrif

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod moderniaeth ar ôl y rhyfel oedd ailfeddwl ac ailgynllunio bron pob agwedd ar fywyd yn y cartref, o ddodrefn i dai a gerddi.

Yn wir, byddai strwythur cymdeithas yn cael ei ailystyried drwy syniadau chwyldroadol, megis cymdeithaseg a llysieuaeth!

Rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar dai a gerddi a dylanwad aruthrol y mudiad at greu gerddi bryd hynny, a nawr.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, astudiaethau achos a thrafodaethau grŵp.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Jane Brown, The English Garden Through the Twentieth Century (Garden Art Press, 1999)
  • Jane Brown, The Modern Garden (Thames and Hudson, 2000)
  • Katie Campbell, Icons of 20th Century Landscape Design (Frances Lincoln, 2006)
  • Guy Cooper; Paradise Transformed: The Private Garden for the Twenty-first Century (Monacelli Press; Argraffiad cyntaf (1 Tachwedd 1996)
  • Piet Oudolf, Noel Kingsbury, Planting: A New Perspective (Timber Press 2013)
  • Thomas Rainer a Claudia West, Planting in a Post-Wild World: Designing Plant Communities for Resilient Landscapes (Timber Press 2016)
  • Rory Stuart, What are Gardens for?, Frances Lincoln (5 Medi 2012)
  • Penelope Hill, Contemporary History of Garden Design: European Gardens between Art and Architecture (Basel: Birkhauser, 2004)
  • Penelope Hobhouse; In Search of Paradise: Great Gardens of the World (Frances Lincoln 2006)
  • Piet Oudolf, Noel Kingsbury, Planting: A New Perspective (Timber Press 2013). Tim Richardson, Futurescapes , Thames and Hudson (2011)
  • Jane Waymark, Modern Garden Design (London: Thames & Hudson, 2003)
  • Andrew Wilson, Influential Gardens: the designers who shaped 20th-century garden style (London: Mitchell Beazley 2002)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.