Ewch i’r prif gynnwys

Sut i gael pen ffordd yn yr Apocalyps

Hyd Ar-lein
Tiwtor Michelle Deininger
Côd y cwrs MED23A5375A
Ffi £249
Ffi ratach £199 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Mae gan ddiwedd y byd hanes hir ac iach. Yn y modiwl hwn, byddwn ni’n olrhain datblygiad testunau (ôl-)apocalyptaidd yn y traddodiad Gorllewinol, o'i wreiddiau yn naratif yr henfyd a'r Beibl i'r cynnydd yn ei boblogrwydd yn ystod y cyfnod modern.

Byddwch chi’n meithrin dealltwriaeth o gyd-destunau diwylliannol a hanesyddol ac yn cael defnyddio pentwr o adnoddau hanfodol.

Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu llwyth o sgiliau goroesi academaidd, o baratoi dadl argyhoeddiadol i ddadansoddi’n feirniadol. Gan ystyried ystod eclectig o destunau sy’n ymdrin â ffilm, teledu a llenyddiaeth, byddwn ni’n ymchwilio i sut mae straeon am ddiwedd y byd yn herio rhagdybiaethau ynglŷn â phwy ydym ni, o ble y daethom ni ac i ble rydym ni’n mynd o bosibl. Hynny, wrth gwrs, gan gymryd y byddwn i gyd yn gallu cymryd rhan.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno'n anghydamserol (h.y. gallwch chi astudio ar adegau sy'n gyfleus i chi), a bydd deunyddiau ac awgrymiadau ysgrifennu’n cael eu rhannu bob wythnos.

Mae’r cwrs yn cynnwys recordiadau sain/fideo gan diwtor, tasgau ysgrifennu a fforymau trafod.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar Microsoft Teams i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o elfennau’r cwrs sy’n seiliedig ar destun. Nid oes unrhyw alwadau fideo gorfodol. Prif ffocws y cwrs yw ysgrifennu, darllen a myfyrio.

Disgwylir i chi gwblhau tasgau ysgrifennu a myfyrio yn rhan o'ch dysgu a'ch asesiad. Byddwch chi’n gallu cwblhau’r tasgau ar gyfer y cwrs anghydamseredig hwn ar adegau sy'n gyfleus i chi.

Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau bob wythnos.

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy'n dymuno mireinio eu sgiliau ysgrifennu ond hefyd unrhyw un sydd am ailddechrau ysgrifennu drwy sôn am lenyddiaeth, diwylliant a ffilm.

Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:

  • Dechrau’r Diwedd: Pam astudio'r apocalyps?
  • Ar ôl y Rhyfel 1: ‘The Birds’ gan Daphne du Maurier (1952) a The Birds gan Hitchcock (1963)
  • Ar ôl y Rhyfel 2: Endgame gan Samuel Beckett (1957)
  • Yr Oes Atomig: Dyfyniadau o On the Beach gan Nevil Chute (1957) a Children of the Dust gan Louise Lawrence (1985)
  • Llifogydd a Sychder: Ffuglen hinsoddol
  • Pla: The Stand gan Stephen King (ABC, 1994)
  • Canlyniadau: The Leftovers (HBO, 2014)
  • Dod i gasgliadau, pwyso a mesur, gobeithio

Mae’r rhestr hon yn amlinellu testunau sylfaenol, a gall y rhain newid. Siaradwch â thiwtor y cwrs cyn dechrau unrhyw waith darllen helaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni’n ceisio rhoi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cynhyrchu portffolio o dasgau ysgrifenedig ar ffurf Dyddiadur Dysgu. Bydd portffolios oddeutu 1,500 – 2,000 o eiriau. Cewch adborth rheolaidd drwy gydol y cwrs.

Deunydd darllen awgrymedig

Efallai yr hoffai myfyrwyr edrych ar rai o’r testunau canlynol cyn i’r modiwl ddechrau. Mae'r holl destunau isod ar gael yn ddigidol drwy gatalog llyfrgell y brifysgol.

  • John J. Collins (gol), The Oxford Handbook of Apocalyptic Literature (OUP, 2014)
  • Daniel Cordle, ‘Protect/Protest: British nuclear fiction of the 1980s’, The British Journal for the History of Science (Rhifyn Arbennig: Diwylliant Niwclear Prydain), Rhif 4, Cyf 45 (2012)
  • Maria Manuel Lisboa, The end of the world: apocalypse and its aftermath in Western culture (Open Book, 2011)
  • Shelley Streeby, Imagining the Future of Climate Change: World-Making Through Science Fiction and Activism (Gwasg Prifysgol California, 2018)
  • Andrew Tate, Apocalyptic Fiction (Bloomsbury, 2017)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.