Ewch i’r prif gynnwys

Polish for Beginners

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddysgu strwythurau sylfaenol Pwyleg er mwyn cyfathrebu ar lefel sylfaenol mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar agweddau gwahanol o ddiwylliant Gwlad Pwyl.

Mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi os nad ydych yn medru gair o Bwyleg ac am gaffael gwybodaeth sylfaenol, digon i gyfathrebu ar lefel sylfaenol.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Bydd y ramadeg/pynciau canlynol o dan sylw:

Gramadeg:

  • Synau/Sillafu/Ynganu
  • Newidiadau sain
  • Rhyw (benywaidd/gwrywaidd/niwtral)
  • Rhagenwau personol
  • Defnyddio'r cyflyrau (sylfaenol)
  • Amser Presennol/Gorchmynnol
  • Rhifolion
  • Ansoddeiriau
  • Adferfau

Pynciau:

  • Cyfathrebu sylfaenol: Cyflwyno eich hun 'shwmae' 'dydd da'
  • Cenedligrwydd
  • Adeiladau, man yn y dref, cyfarwyddiadau
  • Ystafelloedd, y tu mewn i adeiladau
  • Tywydd a thymhorau
  • Lliwiau
  • Oedran, golwg
  • Cartref a theulu
  • Bwyd a diod
  • Diwrnod, wythnos, cyfnodau amser, dyddiadau
  • Siopa
  • Gwaith ac amser sbâr
  • Trefi a Dinasoedd Pwylaidd

Dysgu ac addysgu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Gwaith cwrs ac asesu

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y cewch brofion dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu traethodau gartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a chi.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.