Rôl y Frenhines yn yr Oesoedd Canol
Hyd | 6 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Charlotte Pickard | |
Côd y cwrs | HIS21A5217A | |
Ffi | £235 | |
Ffi ratach | £188 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) |
Roedd cenedlaethau blaenorol o haneswyr yn canolbwyntio ar frenhinoedd: llywodraethwyr gwrywaidd a’u cyflawniadau mewn gwleidyddiaeth a rhyfel. Diystyriwyd rôl breninesau yn aml.
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r syniad o Rôl y Frenhines. Trwy gyfres o astudiaethau achos, yn amrywio o’r ddeuddegfed i’r bymthegfed ganrif ac yn edrych ar enghreifftiau o Loegr, Ffrainc a Sbaen, byddwn yn archwilio’r rôl a gyflawnwyd gan freninesau yn y gymdeithas ganoloesol.
Cyflwynir myfyrwyr i ysgolheictod diweddar cyffrous, sy’n adfer menywod brenhinol i’w priod le fel arweinwyr yn y byd canoloesol: mamau a chydweddogion a oedd yn gyfrifol am barhad llinellau brenhinol, ond a oedd yr un mor bwysig fel ffigyrau gwleidyddol cryf, llywodraethwyr eu hunain hyd yn oed, a noddwyr crefydd a diwylliant.
Byddwn yn archwilio breninesau canoloesol yng nghyd-destun ehangach menywod y cyfnod, gan holi i ba raddau y gallwn ail-greu eu rolau gan ddefnyddio adroddiadau ysgrifenedig gwrywaidd. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau modern o astudio rôl y frenhines, ac yn archwilio ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig a diwylliant materol sydd wedi goroesi, i ddeall grym y frenhines yng 'ngêm yr orsedd' yr oesoedd canol.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned wedi'u rhannu'n themâu. Mae pob uned yn cynnwys sesiwn ar-lein dwy i dair awr o hyd. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan Rith-Amgylchedd Dysgu’r brifysgol, sef Dysgu Canolog.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith asesedig:
- dadansoddiad ffynhonnell 500 o eiriau
- traethawd 1000 o eiriau.
Byddwch yn cael cyngor a chefnogaeth ar gyfer y ddau aseiniad ac adborth manwl am gryfderau a meysydd i'w gwella ar y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Bennett, Judith M. a Ruth Mazo Karras (goln), The Oxford Handbook of Women and Gender in Medieval Europe (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2013).
- Castor, H., She-Wolves: The Women who Ruled England before Elizabeth (Llundain: Faber, 2010)
- Carmi-Parsons, J. (gol.), Medieval Queenship (Stroud: Alan Sutton, 1994)
- Duggan, A. J. (gol.), Queens and Queenship in Medieval Europe (Woodbridge: Boydell Press, 1997)
- Earenfight, T., Queenship in Medieval Europe (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2013)
- Hilton, L., Queens Consort: England’s Medieval Queens (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 2008)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.