Ewch i’r prif gynnwys

Bydoedd Arwrol ym myd Ffantasi a Ffuglen: O Tolkien i Game of Thrones

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae cymeriadau, bwystfilod ac anturiaethau ffantasi yn ymddangos yn gyson mewn ffilmiau, nofelau a gemau cyfrifiadurol, ar y teledu ac mewn sawl agwedd o ddiwylliant poblogaidd.

Bydd y cwrs hwn yn ystyried bydoedd ffantasi pedwar awdur – J.R.R. Tolkien a Lord of the Rings, Ursula Le Guin a The Wizard of Earthsea, Robert Silverberg a Majipoor Chronicles a George R.R. Martin a Game of Thrones.

Mae'r bydoedd ffantasi toreithiog a chymhleth a grëwyd gan yr awduron hyn yn tynnu ar hanes, mytholeg a llên gwerin. Bydd y cwrs hwn yn ystyried y berthynas rhwng bydoedd ffantasi a'u ffynonellau hanesyddol, yn enwedig y modd y mae cymdeithas yn y straeon hynny'n adlewyrchu diwylliannau 'arwrol' yn Ewrop a thu hwnt.

Mae hudoliaeth yn rhan o'r holl fydoedd hynny, a byddwn yn archwilio'r modd y mae'n cyd-fynd ag agweddau tuag at hudoliaeth y Dadeni a'r oesoedd canol, a'r modd y mae'n creu safon unigryw i bob un o'r ffantasïau hynny.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes a / neu ei gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth, a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n rhan o lwybrau Archwilio’r Gorffennol a Treiddio i Naratifau, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybrau hynny.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned. Mae pob uned yn cynnwys sesiwn wyneb yn wyneb 2-awr rhwng 6pm a 8pm.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau a dadleuon dosbarth, gwaith pâr a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau, ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

Bydd pwyslais cryf hefyd ar ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan Rith-Amgylchedd Dysgu’r brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith asesedig: dadansoddiad ffynhonnell neu adolygiad 500 o eiriau a thraethawd 1000 o eiriau. Byddwch yn cael cyngor a chefnogaeth ar gyfer y ddau aseiniad ac adborth manwl am gryfderau a meysydd i'w gwella ar y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Douglas A. Anderson, Tales Before Narnia: The Roots of Modern Fantasy and Science Fiction (Efrog Newydd, 2008).
  • Jane Chance ac Alfred K. Siewers (eds), Tolkien’s Modern Middle Ages (Efrog Newydd, 2009).
  • William Clapton and Laura J Shepherd, ‘Lessons from Westeros: Gender and Power in Game of Thrones,’ Politics, 37 (2017), 5-18.
  • Dimitra Fimi, Celtic Myth in Contemporary Children’s Fantasy: Idealization, Identity, Ideology (Llundain, 2017).
  • Edward James a Farah Mendlesohn (golygyddion), The Cambridge Companion to Fantasy Literature (Caergrawnt ac Efrog Newydd, 2012)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.