Ewch i’r prif gynnwys

Chwilio am Fythau ac Arwyr: Taith Fyd-eang o Ffuglen Wych

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 10 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs FOL20A5436A
Ffi £170
Ffi ratach £136 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Mae chwilio am ystyr myth mor hen â diwylliant ei hun.

Mae'r chwiliad hwn wedi cael ei ymgorffori yn ffuglen nifer o wledydd o'r Iliad Groeg a'r Odyseia, sagâu'r Llychlynwyr a'r Mayan Popul Voh a chwaraewyr triciau Gogledd America.

Byddwch yn astudio ystod eang o fythau o Mesopotamia hynafol i Wlad Groeg a Rhufain glasurol, o fyd arwrol y Llychlynwyr a'r Celtiaid a mytholegau'r Maias, yr Asteciaid ac Americanwyr Brodorol.

Byddwch yn archwilio'r mythau eich hunain a'r ffyrdd y maent wedi dylanwadu ar agweddau eraill diwylliant o gelf i lenyddiaeth, ffilm a ffantasi, adfywiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a phaganiaeth gyfoes.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

  • Plant Zeus: Mythau clasurol a'u dylanwad
  • Byd y Llychlynwyr yn y gorffennol a'r presennol
  • O fythau Celtaidd i Geltiaid Anesboniadwy
  • Safbwyntiau byd-eang Maian ac Aztec
  • Bodau Angylaidd drwy gydol y byd
  • Mytholegau Gogledd America
  • Isfydoedd ledled y byd
  • Japan a Tsieina: mytholeg, manga a chrefftau ymladd
  • Mythau môr, ysbrydion water mamas ac incantados

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Gofynnir i chi gyflawni dau aseiniad byr, sydd â chyfanswm o 1,500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Carolyne Larrington ed. The Feminist Guide to Mythology (1995 Pandora, London)
  • Robert Segal, Theorizing About Myth. (Amherst, Massachusetts: University of Massachusetts Press, 1999).
  • Explaining Myth (Sheffield Equinox Press, 2000)
  • Brian Attebery, “Aboriginality in Science Fiction.” Science Fiction Studies, vol. 32, no. 3, 2005, pp. 385–404. JSTOR, www.jstor.org/stable/4241374
  • Wendy Doniger, Other peoples' myths: the cave of echoes. Chicago: University of Chicago Press, 1995

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.