Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg Maes yn Sir Benfro Rhan 1

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae tirwedd Sir Benfro yn wahanol i lawer o Gymru gan nad yw’n fynyddig iawn, gydag ardaloedd helaeth o lwyfandiroedd o dan 183m (600 tr).

Bydd y cwrs hwn yn ymweld â nifer o leoliadau allweddol, ardaloedd arfordirol yng ngogledd y sir yn bennaf, er mwyn archwilio creigiau a ffurfiwyd yn ystod y cyfnodau cyn-Gambriaidd, Cambriaidd ac Ordofigaidd. Mae’r cwrs wedi’i amseru i sicrhau mynediad diogel at draethau. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddaeareg.

Noder y bydd angen ichi wneud eich trefniadau teithio a llety eich hunain. Mae'r amseroedd a'r lleoliadau cwrdd i'w cadarnhau.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Unrhyw un sydd â, neu sy'n dymuno datblygu, diddordeb mewn daeareg ymarferol.

Dysgu ac addysgu

Mae’r daith maes yn para 4 diwrnod, gyda phwyslais ar arsylwi ymarferol a chydnabod nodweddion arwyddocaol.

20 o oriau cyswllt.

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gwyddoniaeth daearegol, a daeareg (gan gynnwys tirffurfiau) y maes astudio yn gyntaf, drwy wneud darllen cefndirol o’r daflen wybodaeth a anfonir atynt cyn y cwrs (gan gynnwys testun, mapiau a brasluniau anodedig disgrifiadol); bydd llawer o’r agweddau a ddisgrifir yn y daflen wybodaeth wedyn yn cael eu dangos iddynt yn y maes – a bydd y daflen wybodaeth ar gael iddynt bob amser i gyfeirio ati.

Bydd sgiliau maes yn cael eu haddysgu yn ystod y cwrs, gan gynnwys sut i arsylwi a chofnodi, sut i samplu sbesimenau cyfeirio da, a bod yn ymwybodol o agweddau allweddol o ran cadwraeth ddaearegol a diogelwch, a gweithredu arnynt.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

I'w darparu gan y tiwtor.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.