Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Rwseg II

Hyd 12 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Olga Lewis
Côd y cwrs RUS20A3278A
Ffi £199
Ffi ratach £159 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Ymrestrwch nawr

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod i astudio Gwella eich Rwseg I, neu sy'n meddu ar rywfaint o wybodaeth am Rwseg.

Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau iaith ymhellach. Mae’r prif bwyslais ar siarad, er y byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Rwseg. Yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau byr; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Mae'r cwrs parhaus hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth o'r Rwseg sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn glywedol ac yn ysgrifenedig ymhellach.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Dyma’r pynciau fydd o dan sylw:

  • fy nhŷ/fflat
  • post a ffôn
  • colli bagiau a thollfeydd
  • siopa.

Gramadeg:

  • berfau atblygol
  • rhifolion/trefnolion.

Caiff llungopïau eu rhoi o'r deunydd dysgu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.

Lleoliad

Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU