Ewch i’r prif gynnwys

Menywod ym myd Ffilmiau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu llawer o drafod yn y cyfryngau ynglŷn â llwyddiant y cyfarwyddwr ffilm benywaidd yn sinema'r Gorllewin, yn aml fel petai merched yn cymryd rhan yn y broses gwneud ffilmiau creadigol yn ffenomen gymharol newydd.

Fel sy'n digwydd yn aml gyda rolau menywod yn stori diwylliant, nid yw hyn yn wir. Mae'r cwrs hwn yn archwilio sut roedd menywod yn cymryd rhan yn y broses o wneud ffilmiau o'i dyfeisio yn y lle cyntaf, gan edrych ar wneuthurwyr ffilmiau benywaidd cynnar a'u gwaith torri cwys newydd, gan gynnwys Alice Guy, Mary Pickford, Lois Weber, Dorothy Davenport a Francis Marion.

Bydd y modiwl hefyd yn ystyried twf system stiwdio Hollywood, a'r menywod hynny a oroesodd hi, yn ogystal â'r byd o wneud ffilmiau benywaidd y tu allan i'r brif ffrwd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Mae pynciau yn debygol o gynnwys:

  • Gwneuthurwyr ffilmiau cynnar - Archwilio gwaith arloesol ffigyrau megis Alice Guy, Mary Pickford, Lois Weber, Dorothy Davenport a Francis Marion.
  • Twf system stiwdios Hollywood - y rhai a oroesodd a’r rhai a fethodd. Archwilio sut aeth ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr benywaidd i’r ymylon pan ffurfiwyd yr oligopolïau.
  • I ble aeth y menywod? Menywod yn gwneud ffilmiau y tu allan i Hollywood – Ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr ffilm sy’n gwneud popeth y tu allan i sinema’r Gorllewin, ffilmiau arbrofol, ffilmiau dogfennol a ‘gwrth-sinema ffeministiaidd’.
  • Menywod creadigol yn dychwelyd i sinema brif ffrwd - ble rydym ni erbyn hyn a sut olwg fydd ar y dyfodol o bosibl i ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr ffilmiau benywaidd?

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd gan fyfyrwyr amrywiaeth o opsiynau asesu, o ysgrifennu dadansoddiadau byr a thraethodau i gynhyrchu portffolio ysgrifennu (a all gynnwys beirniadaethau byr, adolygiadau, dadansoddiadau byr o ddamcaniaethau beirniadol, ysgrifennu creadigol ac unrhyw elfennau priodol eraill).

Deunydd darllen awgrymedig

Mae’n bosibl y bydd y testunau canlynol o ddefnydd i'r myfyrwyr ar gyfer eu darllen ehangach ond bydd rhestr ddarllen lawn yn cael ei darparu yn y sesiwn gyntaf.

  • Hurd, Mary, Women directors and their films (Praeger, 2007)
  • Maule, Rosanna, ‘Women Filmmakers and Postfeminism in the Age of Multimedia Reproduction: A Virtual Archive for Women's Cinema’, in Framework: The Journal of Cinema and Media (2010)
  • Slide, Anthony, ‘Early Women Filmmakers: The Real Numbers’ in Film History: An International Journal (2012)
  • White, Patricia, Women's cinema, world cinema: projecting contemporary feminisms (Duke University Press, 2015)
  • Caiff myfyrwyr fynediad at Box of Broadcasts, ar gael trwy fanylion mewngofnodi Prifysgol Caerdydd .

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.