Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ardd Ffrwythau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Dysgwch sut i gynllunio, creu a chynnal gardd fwytadwy sy'n hawdd ei chynnal a'i chadw, gan ganolbwyntio ar goed ffrwythau, ffrwythau meddal a phlanhigion deiliog sy'n gynefin â chysgod.

Yn seiliedig ar egwyddorion permaddiwylliant, bydd y cwrs Garddio Ffrwythau hwn yn esbonio'r gwaith o gynllunio a chreu cynlluniau ar gyfer eich gardd a'ch anghenion cynnal a chadw – gan gynnwys tocio, rheoli plâu a pheillio.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu ei fwyd ei hun, yn enwedig ffrwythau, neu mewn rheoli gardd mewn ffyrdd naturiol - beth bynnag fo’i maint.

Dysgu ac addysgu

Bydd cyflwyniadau, trafodaethau grŵp, ymarferion grŵp, arddangosiadau/ gweithgareddau ymarferol, a gwaith cynllunio mewn grwpiau. Caiff y cwrs ei ddarlunio gyda chyflwyniadau PowerPoint. Bydd pwyslais ar ddysgu gweithredol, i’ch helpu i ddatblygu a deall mater y pwnc a’i berthnasedd i’r byd go iawn.

Mae'r testunau a fydd dan sylw yn cynnwys:

  • beth yw garddio permaddiwylliant?
  • agwedd, goledd, microhinsoddau - sut maent yn dylanwadu ar y cynllun
  • egwyddorion garddio coedwig bwytadwy
  • ffrwythau anghyffredin
  • delltwaith a choed ffrwythau y cyfyngir ar eu twf
  • agweddau benodol ar dyfu ffrwythau - gwreiddgyffion, rheoli plâu, rheoli dŵr, tocio, peillio, rheoli’r cynhaeaf dros gyfnod hir
  • gweithgareddau ymarferol (tocio) a thaith maes (gardd y tiwtor yn Nhirlunio Bwytadwy)
  • darlunio yn ôl graddfa
  • technegau cynllunio - gwahanol ddulliau cynllunio
  • datblygu dyluniad yr holl fyfyrwyr ar gyfer eu gerddi ffrwythau eu hunain drwy drafodaeth grŵp bach a thiwtorialau unigol.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Whitefield, P. (1993) Permaculture in a Nutshell. Permanent Publications
  • Whitefield, P. (1997) How To Make A Forest Garden. Permanent Publications
  • Crawford, M. (2010) Creating a Forest Garden
  • Bell, G. (1994) Permaculture Garden Harper Collins
  • French, J.  (1992) The Wilderness Garden Aird Books. (Awstralia)
  • Fern, K. (1997) Plants for a Future. Permanent Publications.
  • Hessayon D.G. (1997) The Fruit Expert. Arbenigol
  • Larkcom, J. (2003) The Organic Salad Garden. Frances Lincoln Ltd
  • McVicar, J. (1997) Good Enough To Eat. Kyle Cathie Ltd
  • Baines, D. (2000) How To Make A Wildlife Garden. Frances Lincoln Ltd
  • Crawford, M. (1998) Edible Plants For Temperate Climates. Agroforestry Research Trust.
  • Kourik, R. (1986) Designing and Maintaining Your Edible Landscape Naturally. Metamorphic P., U.S
  • The Collins Gem series for identifying: Wildflowers; Moths & Butterflies; Insects; Birds; Pond species
  • Brickell, C. (ed.) (2003) Royal Horticulture Society New Encyclopaedia of Plants and Flowers. Dorling Kindersley.
  • Bown, D. (2003) The Royal Horticulture Society Encyclopaedia of Herbs and their Uses. Dorling Kindersley.
  • Greenwood, P. and Halstead, A. (1997) The Royal Horticulture Society Pest and Diseases. Dorling Kindersley.
  • Brickell, C. and Joyce, D. (1996) The Royal Horticultural Society Pruning and Training. Dorling Kindersley.
    The Royal Horticulture Society Encyclopaedia of Gardening
  • Flowerdew, B. (2003) Bob Flowerdew's Organic Bible: Successful Gardening the Natural Way. Kyle Cathie
    Permaculture Magazine and Organic Gardening

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.