Ewch i’r prif gynnwys

System Gyfreithiol Cymru a Lloegr

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn yn cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth o system gyfreithiol Cymru a Lloegr, ei ffynonellau, ei harferion a'i gweithdrefnau, yn ogystal â'i phersonél.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn trafod effaith deddfwriaeth, cynseiliau, dehongliad statudol, pwerau datganoledig a deddfwriaeth Hawliau Dynol ac yn ystyried diwygiadau diweddar ac arfaethedig i system gyfreithiol Cymru a Lloegr.

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:

  • cysylltu’r deunydd a roddwyd a’r deunydd yr ymchwiliwyd iddo’n unigol â'r pynciau a astudiwyd
  • dangos dealltwriaeth o'r pynciau drwy gynnig esboniadau’n ysgrifenedig ac ar lafar
  • ystyried dadleuon/barn a dangos dealltwriaeth o awdurdodau cyfreithiol perthnasol a gwybodaeth amdanynt
  • datblygu eich dysgu eich hun drwy ddarllen ac ymchwilio i’r pynciau sy'n cael eu hastudio
  • bod yn ymwybodol o sut a pham y defnyddir yr achosion a'r ddeddfwriaeth benodol mewn pynciau penodol

Dysgu ac addysgu

Gwaith cwrs ac asesu

Deunydd darllen awgrymedig

  • Understanding Law, R. Vanstone (Longman Press)
  • Learning the Law, G. Williams (Sweet & Maxwell)
  • English Law,  K. Smith & D. Keenan (Longman Press)
  • English Legal System,  G. Slapper & D. Kelly (Cavendish Publishing)
  • English Legal System,  K. Malleson (Butterworth)
  • Cases and Materials on the English Legal System, M. Zander (Butterworth)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.