Ewch i’r prif gynnwys

Aberthu i'r Duwiau: Chwedlau, Archaeoleg, a Chrefydd y Groegiaid Hynafol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Byddwn yn trin a thrafod archaeoleg crefydd y Groegiaid Hynafol o'r cyfnod cynhanes i'r cyfnod Helenistaidd (c.3200-c.32 Cyn y Cyfnod Cyffredin), gan ymchwilio i’r berthynas rhwng y chwedlau a'r dystiolaeth a geir mewn cofnodion archeolegol.

Byddwn yn ystyried dadleuon hen a newydd fel ei gilydd ynghylch datblygiad a pharhad arferion a chredoau crefyddol, gan geisio deall crefydd y Groegiaid Hynafol.

Byddwch yn dod i ddeall tystiolaeth archeolegol sydd wedi goroesi o’r cyfnod, gan ddehongli hyn ochr yn ochr â ffynonellau llenyddol o'r cyfnod clasurol (510-323 Cyn y Cyfnod Cyffredin). Wrth dreiddio’n ddwfn i grefydd y Groegiaid Hynafol yn y modd hwn, byddwn yn trin a thrafod y dystiolaeth sy’n amlwg mewn pensaernïaeth gyhoeddus a phreifat, mewn celf megis murluniau, crochenwaith, seliau, ffigurynnau, a cherfluniau, yn ogystal â thystiolaeth a geir o gladdedigaethau’r Groegiaid Hynafol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl mewn naw sesiwn dwy awr o hyd ar lein. Bydd y sesiynau'n gymysgedd o ddarlithoedd, adnoddau clyweledol, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl. Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth. Bydd trafodaethau a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  1. Cyflwyniad: Archaeoleg Crefydd: Theori ac Ymarfer
  2. Crefydd yr Oes Efydd
  3. Arferion a Chredoau Crefyddol - Y Cysondebau a’r Anghysondebau
  4. Groeg Hynafol: Temlau a Chysegrfannau
  5. Chwedlau, Duwiau, Gwyliau ac Aberthu
  6. Y Polis, Crefydd a’r Gymdeithas
  7. Crefydd a Rhywedd
  8. Y Cofnod Claddu: Arferion a Chredoau
  9. Syniadau a Dadleuon Newydd am Grefydd yng Ngwlad Groeg Glasurol

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Burkert, W. 1985. Greek Religion: Archaic and Classical. Rhydychen: Blackwell
  • Insoll, T. 2004. Archaeology, Ritual, Religion. Efrog Newydd: Routledge
  • Mikalson, J. D. 2010.  Ancient Greek Religion. 2il Argraffiad. Chichester: Wiley-Blackwell

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.