Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Moeseg Plentyndod

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Allech chi gael eich niweidio drwy gael eich geni? Ddylai plant 7 oed gael eu gorfodi i gael llawdriniaeth yn groes i'w hewyllys?

A yw gwerthoedd yn fater dilys ar gyfer addysg y wladwriaeth? A ddylid diddymu ysgolion preifat?

Bydd y modiwl yn archwilio detholiad o gwestiynau moesegol ynglŷn â phlant, rhieni a’r wladwriaeth, gan dynnu ar wybodaeth o seicoleg ddatblygiadol a’r gyfraith, yn ogystal ag athroniaeth. Ni chymerir bod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth, seicoleg na seiciatreg.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y modiwl hwn dros 10 sesiwn, dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.

Bydd cymysgedd o ddarlithoedd a seminarau, a bydd yr union gyfran yn cael ei phennu yn ôl anghenion y myfyrwyr sy’n cofrestru. Efallai y bydd yr elfen seminar yn cynnwys dadl, trafodaeth, gweithgareddau grŵp, cyflwyniadau a darlleniadau.

Bydd deunydd darllen ychwanegol yn cael ei argymell, a darperir rhestr ddarllen. Pe byddai’n briodol, gallai deunyddiau eraill fel rhaglenni dogfen gael eu cynnwys. Rhoddir taflenni cwrs fel y bo'n briodol.

Bydd y seminarau yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r syniadau a chysyniadau a drafodwyd yn ystod y cwrs. Caiff sgiliau deallusol eu hannog drwy gymryd rhan mewn trafodaeth yn y dosbarth, darllen a gwaith cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau tri darn o waith a asesir: fformiwleiddiad cwestiynau, cofnod rhestr geiriau 500 o eiriau, traethawd beirniadol o’r ddadl honno, a thraethawd rhwng 1,300 a 1,500 o hyd.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y tri aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer pob darn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Anca Gheaus, Gideon Calder and Jurgen De Wispelaere, eds. (2019). The Routledge Handbook of the Philosophy of Childhood and Children. Routledge Handbooks in Philosophy. London and New York: Routledge.
  • Randall R. Curren, ed. (2007). Philosophy of Education:  An Anthology.  Oxford: Blackwell Publishing.

Darperir rhestr darllen drwyadl ar ddechrau'r cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.