Ewch i’r prif gynnwys

Rhyfeddodau Natur: Archwiliadau Pellach

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

O'r trefol i'r gwyllt, y ffurfiannol i'r presennol, y micro i'r macro, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi greu eich cyfarfyddiadau personol â natur, trwy farddoniaeth a rhyddiaith, ffuglen a hunangofiant.

Mae'r modiwl hwn yn defnyddio’r cyfrwng ysgrifennu creadigol i archwilio a darlunio ein perthynas â byd natur mewn amgylchedd cynnes, cefnogol ac ysgogol ar gyfer awduron o bob profiad.

Mae'n gweithredu fel dilyniant i Ryfeddodau Natur  ond gellir ei astudio fel opsiwn annibynnol yn hawdd. Bwriad y cwrs hwn, fel ei ragflaenydd, yw meithrin eich chwilfrydedd a chreu rhyfeddod.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg gweithdy 2 awr, a fydd yn cynnwys trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach ac adborth. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Mae'r meysydd archwilio yn debygol o gynnwys:

  • Ysgrifennu trwy'r synhwyrau
  • Profiadau o natur yn ystod plentyndod
  • Profiadau trefol â natur
  • Mentro i'r anialwch
  • Cadw dyddiadur natur
  • Traddodiad o gerdded ac ysgrifennu
  • Natur yn ystod y cyfnod clo
  • Natur ac iachâd

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer yr asesiad, byddwch yn cynhyrchu portffolio o sgriptiau, gan gynnwys cydran myfyriol. Bydd portffolios oddeutu 1,500 i 2,000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y tiwtor yn cyflwyno awgrymiadau darllen pellach.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.