Llofruddiaeth a Phriodas: William de Cantilupe
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae llofruddiaeth Syr William de Cantilupe yn 1375 yn agor ffenestr i gymdeithas y bedwaredd ganrif ar ddeg sy'n ein galluogi i archwilio ystod eang o agweddau ar fywyd canoloesol, o'r gyfraith a chyfiawnder i ddehongliadau rhywedd.
Pwy laddodd Syr Wiliam a gadael ei gorff mewn cae yn Swydd Lincoln? Ai criw o ladron pen ffordd ydoedd, a phwy a ffurfiai’r giangiau troseddwyr hyn yn y bedwaredd ganrif ar ddeg?
Neu ai rhywun agosach ato ydoedd, gan wneud iddo edrych fel petai wedi’i ladd gan rywun neu rywrai anhysbys?
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2.5 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i chi drwy Dysgu Canolog.
- Cyflwyniad (i’r modiwl a’r dull asesu, i’r achos ei hun, cefndir a chyd-destun cymdeithasol y bedwaredd ganrif ar ddeg, hanes y treial)
- Trosedd a Chyfiawnder yr Oesoedd Canol (I) – cyflwyniad i fathau ar droseddau, gan gynnwys lladrad pen ffordd, ac edrych ar gwestau crwneriaid a siryfion
- Cymdeithas yr Oesoedd Canol (I) – Elit y Marchogion a’u cymdeithas leol
- Cymdeithas yr Oesoedd Canol (II) – Priodas a Rhywedd (a) Priodas ‘Gonfensiynol’ yn yr Oesoedd Canol
- Cymdeithas yr Oesoedd Canol (III) – Priodas a Rhywedd (b) Anghytgord Domestig
- Aelwydydd yr Oesoedd Canol – Bywyd Gweision yn yr Oesoedd Canol
- Trosedd a Chyfiawnder yr Oesoedd Canol (II) – cyflwyniad i lysoedd [seciwlar] canoloesol megis Llys Mainc y Brenin, a’r treial ei hun
- Llwyfannu’r Treial – bydd y dosbarth yn ail-lwyfannu’r treial gyda’r holl dystiolaeth o’r dosbarthiadau blaenorol ac yn cwblhau eu nodiadau achos gyda thrafodaeth y Rheithgor.
Gwaith cwrs ac asesu
I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd yr asesiad yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys nodiadau achos (a gadwyd drwy gydol y cwrs , gan ddangos rhesymau’r myfyrwyr y tu ôl i’w casgliadau, gan gynnwys trafodaeth derfynol y rheithgor yn y dosbarth terfynol), dadansoddi ffynonellau ac/neu ysgrifennu creadigol.
Deunydd darllen awgrymedig
- Sillem, R., Selected Sessions of the Peace in Lincolnshire (darperir gan y tiwtor)
- Gorski, R., The fourteenth-century sheriff : English local administration in the late Middle Ages, (Woodbridge, 2003) (ar gael yn ASSL)
- Hanawalt, B. (1976). ‘Violent Death in Fourteenth- and Early Fifteenth-Century England’. Comparative Studies in Society and History, 18 (3), 297-320 (Ar gael drwy Fynediad CU Access i JSTOR)
- Hunnisett, R. F., The Medieval Coroner, (Caergrawnt, 1961) (ar gael yn ASSL)
- Pedersen, F., ‘Motives for Murder: The Role of Sir Ralph Paynel in the Murder of William Cantilupe (1375)’, in Continuity, Change and Pragmatism in the Law: Essays in Honour of Prof. Angelo Forte, golygyddion. Andrew R. C. Simpson, Scott Crichton Styles, Euan West ac Adelyn L. M. Wilson, (Aberdeen University Press, 2016), 69-94 (ar gael fel .pdf ar-lein)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.