Ewch i’r prif gynnwys

Hanes ac Archaeoleg Ymerodraethau: Rhufain a Bysantiwm

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Yn bennaf, nod y cwrs yw cyflwyno myfyrwyr i hanes, archaeoleg a chelf y cyfnodau Rhufeinig a Bysantaidd yn y byd Canoldirol (200 BC - 1453 AD).

Byddwch yn astudio crochenwaith, paentio, mosaigau, cerfluniau coffaol a micro-gerfluniau (cerfiadau ifori, gemau) yn ogystal â phensaernïaeth breifat a chyhoeddus y ddau gyfnod, ac yn eu rhoi yn eu cyd-destun hanesyddol.

Yn ogystal ag astudio celf, bydd y cwrs hefyd yn ceisio datrys cwestiynau penodol: y cysylltiad â chelf Roegaidd glasurol; nawddogaeth yn y celfyddydau; amrywiaeth o ran creu celf yng ngwahanol ranbarthau’r ymerodraethau; natur cymdeithas a strwythurau gwleidyddol; bywyd ac economi bob dydd; rôl menywod; rôl mynachlogydd o ran creu celf; a rôl crefydd.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn archeoleg a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n rhan o lwybr Archwilio’r Gorffennol a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Caiff y cwrs ei addysgu dros gyfnod o 8 diwrnod, gyda phump sesiwn, gan gynnwys pedwar dosbarth gyda'r hwyr fydd yn para 3 awr, ac ysgol dydd Sadwrn. Bydd pob sesiwn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith mewn grwpiau bach a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Ymhlith y pynciau a drafodir y mae:

  • Cyflwyniad.
  • Dyled Rhufain i Roeg.
  • Pensaernïaeth gyhoeddus a phreifat. Fforymau, baddonau, temlau, amffitheatrau, dyfrbontydd, palasau.
  • Celf yn ei chyd-destun: Filâu Rhufeinig a chelf paentio. Achos Pompeii: ffresgoau a mosaigau.
  • Yr amgylchedd adeiledig yn y cyfnod Bysantaidd. Y Tŷ, yr Eglwys a’r Unigolyn.
  • Micro-gerflunio a Phaentio yn y Cyfnod Bysantaidd.

Gwaith cwrs ac asesu

Caiff y modiwl hwn ei asesu drwy ddau aseiniad byr a fydd yn cynnwys oddeutu 1,500 o eiriau i gyd.

Deunydd darllen awgrymedig

Essential reading

  • Borg, B.E. (ed.) 2015. A Companion to Roman Art. Oxford and Malden MA: Wiley-Blackwell.
  • Cormack, R. 2000. Byzantine Art. Oxford: Oxford University Press
  • Stewart, P.  2004. Roman Art.  Oxford: Oxford University Press

Recommended reading

  • Barchiesi, A. and Scheidel, W. (eds.) 2010. The Oxford Handbook of Roman Studies. Oxford: Oxford University Press.
  • Boardman, J., Griffin, J. and Murray, O. (eds.) 2001. The Oxford History of the Roman World. Oxford: Oxford University Press.
  • Haward, A. 1999. Art and the Romans. London: Bristol Classical Press.
  • Henig, M. (ed.) 1983. A Handbook of Roman Art. Oxford: Phaidon.
  • Herrin, J. 2007. Byzantium. London & New York.
  • Ramage, N. and Ramage, A. 1995. Roman Art (2nd edition). Laurence King: London.
  • Rodley. L. 1994. Byzantine Art and Architecture: An Introduction. Cambridge: Cambridge University Press
  • Shepard, J. 2008. The Cambridge History of the Byzantine Empire c.500-1492. Cambridge: Cambridge University Press
  • Stewart, P. 2008. The Social History of Roman Art. Cambridge: Cambridge University Press.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.