Ffrangeg: Sgwrsio Uwch
Hyd | Dydd Llun 24 Mehefin i ddydd Gwener 28 Mehefin 2024 | |
---|---|---|
Tiwtor | Hamid Sahki | |
Côd y cwrs | FRE23A4186A | |
Ffi | £148 | |
Ffi ratach | £127 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi treulio sawl blwyddyn o astudiaethau rhan-amser a/neu os oes gennych eisoes lefel dda o Ffrangeg a hoffech ymarfer eich sgiliau sgwrsio ymhellach.
Bydd y cwrs hwn yn gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau clyweledol a chewch ddigonedd o gyfleoedd i ehangu yr eirfa sydd gennych i’w defnyddio (B2/C1).
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.