Ewch i’r prif gynnwys

Tsieinëeg Uwch

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Dyma'r cwrs i chi os ydych wedi astudio Tsieinëeg am bedair blynedd yn rhan-amser gyda geirfa ymarferol o tua 1,200 o nodau.

Byddwch yn parhau i gael eich hyfforddi mewn sgiliau siarad a gwrando a siarad, a chaiff hyfforddiant darllen ac ysgrifennu eu gwella. Wrth ddysgu'r iaith, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieina.

Defnyddir y gwerslyfr Great Wall Chinese (V), deunydd amlgyfrwng sy'n cynnig adnoddau addysgu cyfoethog, gan gynnwys deunydd cwrs amlgyfrwng ar-lein, CD amlgyfrwng yn ogystal â'r copïau caled traddodiadol o lyfr testun a gweithlyfr.

Dyma gwrs addas ar gyfer y rheiny sydd wedi cwblhau Tsieinëeg I, II a, III a IV drwy ddefnyddio Great Wall Chinese, neu'r rheiny sydd wedi cyrraedd lefel debyg, h.y. wedi astudio Tsieinëeg yn rhan-amser am dros dair blynedd gyda geirfa weithredol tua 800 o nodau.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Ar wahân i sesiynau addysgu wyneb yn wyneb, bydd deunyddiau’r cwrs ar gael ar-lein i adolygu beth ydych wedi’i ddysgu ar gyflymder sy'n addas i chi.

Bydd y tiwtor yn helpu gyda phroses ddysgu mwy unigol, er y bydd gweithgareddau'r ystafell ddosbarth fel gweithio mewn parau, sgyrsiau, trafodaethau grŵp, dadleuon ac ymarferion ieithyddol rhyngweithiol eraill yn parhau i gael eu trefnu.

Defnyddir cyfleusterau addysgu amlgyfrwng megis cyflwyniadau power-point a gwrando ar CD i wella dysgu iaith gweithredol y myfyrwyr.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

I’r perwyl hwn, bydd prawf gwrando ac ysgrifennu yn y dosbarth ar ddiwedd y cwrs i weld beth ydych wedi’i ddysgu, ond bydd canlyniad yr asesiad cyffredinol yn seiliedig ar eich perfformiad yn yr ystafell ddosbarth hefyd yn ystod y cwrs.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.