Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg Uwch – Cam H

Hyd 28 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Bruna Chezzi
Côd y cwrs ITA24A3803A
Ffi £445
Ffi ratach £356 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu ymhellach er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn fwy rhugl ac yn ddigymell.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar siarad ac, yn y dosbarth, bydd digon o gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau siarad. Byddwch chi’n atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur Eidaleg ymhellach drwy ddadansoddi a thrafod materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol yn yr Eidal.

Byddwch chi’n gwrando ar dapiau sain/fideo gan siaradwyr iaith gyntaf, yn darllen testunau o bapurau newydd/cylchgronau ac yn cwblhau ymarferion, a fydd yn gwella eich geirfa a'ch gwybodaeth ramadegol. Bydd detholiad o ddeunyddiau gan siaradwyr iaith gyntaf yn cael eu defnyddio.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â’ch diddordebau.

Defnyddir deunyddiau gan siaradwyr iaith gyntaf ar ffurf taflenni i'w dosbarthu.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd â gwybodaeth ymarferol dda iawn am Eidaleg ac sy’n chwilio am gwrs ysgogol sy’n cyfateb i’w galluoedd ac yn eu hymestyn (saith mlynedd o astudio’n rhan-amser a/neu Eidaleg Uwch – Cam G).

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais ar gymryd rhan, a chewch eich annog i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol sy’n ceisio ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Yn ein barn ni, y peth pwysicaf y dylai’r broses asesu ei wneud yw gwella eich dysgu. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.

Mae pedair rhan i’r broses asesu, a hynny er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Cynlluniwyd i’r cwrs hwn wella’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ar y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, rydyn ni’n argymell eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi’n adolygu ac yn ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.