Ewch i’r prif gynnwys

Hanes Mytholegol Cymru

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 9 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs HIS22A5488A
Ffi £235
Ffi ratach £188 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Mae gan Gymru hanes mytholegol sy'n llawn hanesion am anturiaethau mawr, hud a lledrith a'r arallfyd; mae’n hanes a llenyddiaeth sy'n rhedeg ochr yn ochr â gweithredoedd tywysogion canoloesol Cymru a thwf diwydiannau megis cloddio am lo, ffermio defaid a bywydau dynion a merched cyffredin Cymru.

Ochr yn ochr ag Arthur, Myrddin ac Owain Glyndwr, bydd y cwrs hwn yn archwilio hanes mytholegol ffigyrau o orffennol Cymru, gan gynnwys Owain Lawgoch, Llewelyn ein Llyw Olaf, y Tywysog Madog, Dic Penderyn, Buddug, Gwenllian a Jemima Nicholas; ochr yn ochr â seintiau, beirdd a'r dirgel dderwyddon.

Byddwn yn ymchwilio i brofiadau’n ymwneud ag ysbrydion mewn cestyll, eglwysi, bythynnod gwledig a thai modern, ac yn archwilio bryniau, coedwigoedd, megalithau, ogofâu a mwyngloddiau, y dywedir bod ysbrydion, gwrachod a thylwyth teg yn bodoli ynddynt.

Wrth ystyried yr hanes mytholegol hwn byddwn yn cwestiynu ei berthynas â’r patrymau hynny sy’n newid yng nghymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru, gan ystyried hefyd y gwahanol safbwyntiau mae hyn oll yn ei roi ar Gymru a hunaniaeth pobl Cymru.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu drwy naw sesiwn, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y trafodaethau yn galluogi myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  • Bydoedd y tu hwnt i Arthur yng ngwaith Sieffre o Fynwy
  • Caerleon a'r Rhufeiniaid yn y traddodiad Cymreig
  • Cymru’r Derwyddon ac adfywiad Derwyddiaeth yng Nghymru
  • Môr-ladron, smyglwyr, Gwrthryfelwyr a Throseddwyr
  • Megalithau a Rhyfeddodau: Delweddau o’r Gymru Hynafol
  • Cymru Shakespearaidd
  • Meddygaeth a Hud: Creu meddygon Myddfai
  • Cymru Arwrol: Traddodiad canoloesol yn llysoedd Tywysogion Cymru
  • Symbolau Cenedl y Cymry: Dreigiau, Cennin a Chennin Pedr

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl ynghylch y cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Tony Curtis (ed.), Wales: The Imagined Nation. Studies in Cultural and National Identity (Bridgend: Poetry Wales Press, 1986).
  • Sioned Davies (trans), The Mabinogion (Oxford: Oxford University Press, 2007).
  • Michael Hunter, Preserving the Past: The Rise of Heritage in Modern Britain (Stroud: Alan Sutton, 1996).
  • G.H. Jenkins, A Concise History of Wales (Cambridge: Cambridge University Press, 2007).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.