Ewch i’r prif gynnwys

Japaneeg i Ddechreuwyr I

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr, a chaiff myfyrwyr eu cyflwyno i’r Japaneeg a diwylliant Japan.

Bydd myfyrwyr yn dysgu Hiragana ac yn cael digon o gyfle i ymarfer sgwrsio sylfaenol.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • cyflwyniad i’r Japaneeg
  • cyfarchion a mynegiadau o ddydd i ddydd
  • gwybodaeth bersonol
  • rhifau, amser a diwrnod
  • siopa
  • teithio a thrafnidiaeth

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y pwyntiau gramadegol sylfaenol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • Enw + desu: y dyfodol, y presennol a’r gorffennol
  • Berfau Symud: y dyfodol, y presennol a’r gorffennol

Mae’r cwrs wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb cyffredinol mewn Japaneeg ac sy’n dymuno gallu cynnal sgwrs syml iawn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r Japaneeg gan fod y cwrs ar gyfer dechreuwyr llwyr.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Gwerslyfrau'r cwrs yw: Japanese for Busy People I (Kana version), 3ydd Argraffiad Diwygiedig, AJALT, 2006.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.