Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Ddystopaidd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae ffuglen ddystopaidd yn faes llenyddol poblogaidd, sydd ar ei gynnydd yn y farchnad gyhoeddi.

Beth yw'r rheswm dros y twf hwn mewn cyhoeddiadau? Beth yw'r themâu sy'n denu darllenwyr at y storïau hyn, a sut maen nhw'n adlewyrchu'r gymdeithas sydd ohoni?

Mae'r cwrs ysgrifennu creadigol a beirniadol ymarferol hwn yn archwilio genre llenyddiaeth ddystopaidd, gan archwilio'r cynnydd yn ei boblogrwydd.

Mae'r cwrs yn nodi lle'r genre yn y gymdeithas ac yn archwilio'r themâu niferus y mae'n ymgysylltu â nhw. Pwrpas y cwrs fydd mireinio sgiliau ysgrifennu creadigol a dadansoddol, a datblygu eu dealltwriaeth o’u naratif dystopaidd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Mae’n debygol y bydd gweithdai’n cynnwys:

  • Sgiliau ysgrifennu creadigol: terminoleg sylfaenol a'r cysyniadau sy'n berthnasol i Ffuglen Ddystopaidd.
  • Archwilio tueddiadau, arddulliau a datblygiadau cyfoes ym maes Ffuglen Ddystopaidd.
  • Trafod enghreifftiau cyhoeddedig o Ffuglen Ddystopaidd.
  • Adolygu, adborth, a myfyrio.

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio ysgrifenedig gyda thua 1500 o eiriau ynddo.. Ni chaiff myfyrwyr eu cyfyngu i ffuglen ddystopaidd yn unig a gallant gynnwys ystod o ddeunydd gwahanol yn eu portffolio, gan gynnwys adolygiadau sydd wedi’u hysgrifennu yn arddull cylchgronau neu bapurau newyddion penodol, neu ddarnau ffeithiol creadigol sy’n archwilio rhai o’r materion a gyflwynir yn y testunau gosod.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y gweithdai yn tynnu ar y testunau sylfaenol er mwyn cael ysbrydoliaeth:

  • Atwood, M. (1986) The Handmaid’s Tale
  • O’Neill, L. (2014) Only Ever Yours
  • Huxley, A. (1932) Brave New World
  • Malerman, J. (2014) Bird Box
  • Alderman, N. (2015) The Power
  • Lawrence, L (1985) Children of the Dust
  • Dick, P. K. (1968) Do Androids Dream of Electric Sheep?

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.