Ewch i’r prif gynnwys

Java III

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth uwch o Iaith Raglennu Java.

Mae’r modiwl hwn wedi ei ddylunio i ehangu gwybodaeth a ddysgwyd yn Java II a chaiff ei gyflwyno mewn fformat tebyg.

Dysgu ac addysgu

Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy. Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol.

Y maes llafur

  • Creu rhaglen newydd gan ddefnyddio ffeiliau hapgyrchu
  • Adeiladu Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI) gan ddefnyddio Pecyn Cymorth Swing
  • Cylchred Bywyd Edefyn
  • Creu rhaglen aml-edafedd
  • Edau Defnyddiwr a Daemon
  • Cydamseru Edau a Llwyrgloeon
  • Cyflwyniad i Brotocol y Rhyngrwyd (IP)
  • Protocol Datagram Defnyddwyr (UDP)
  • Protocol Rheoli Trosglwyddo (TCP)
  • Creu rhaglenni rhwydwaith cleient/gweinydd gan ddefnyddio UDP a TCP ill dau
  • Dull Gweithredu o Bell (RMI)
  • Y Gofrestrfa RMI
  • Creu rhaglen RMI
  • Rheolydd diogelwch RMI a ffeiliau polisi

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Horstman, C.S. (1999) Computing Concepts with Java 2 essentials. John Wiley.
  • Horstmann, C.S. (2002) Big Java. John Wiley.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.