Ewch i’r prif gynnwys

Dewiniaid a Gwrachod: Myrddin a Morgan

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs FOL24A5524A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Ymrestrwch nawr

Mae hud yn gymaint o ran o'r byd Arthuraidd â Marchogion y Ford Gron, a'r ddau gonsuriwr enwocaf yw Myrddin a Morgan le Fay.

Mae Myrddin a Morgan ymhlith cymeriadau mwyaf poblogaidd y gylchred Arthuraidd, ond maen nhw hefyd yn dipyn o baradocs. Disgrifir Myrddin yn ddewin pwerus, bardd chwedlonol a siaman a drechwyd yn y pen draw gan ei hud ei hun. Mae Morgan le Fay, ynghyd â swynwyr benywaidd eraill fel Vivien, Nimue, Ganieda a Morwyn y Llyn, yn ffigurau amwys llawn pŵer a all fod yn dwyllodrus ac yn gymwynasgar.

Fel gyda chymaint sy'n gysylltiedig â'r chwedl Arthuraidd, er mwyn deall hud a'r cymeriadau sy'n ei hymarfer, rhaid edrych y tu ôl i'r chwedlau a'r traddodiadau.

Mae Myrddin a Morgan wedi cael eu hystyried yn ffuglen ganoloesol gain ac yn dduwiau Celtaidd sydd wedi goroesi, ac mae’r safbwyntiau gwahanol hyn wedi dylanwadu ar eu hymddangosiadau mewn ffuglen, ffilm, a diwylliant poblogaidd diweddarach.

Mae'r ymarferwyr amlochrog hyn o hud bellach yn byw ym mydoedd neo-ganoloesol yr Arglwydd Tennyson a T.H. White, llenyddiaeth ffantasi fodern, gemau cyfrifiadurol a cosplay.

Sut oedd Myrddin a Morgan mewn gwirionedd? Byddwn yn teithio drwy lenyddiaeth, llên werin, archaeoleg a chelf.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy ddeg sesiwn 2 awr o hyd.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  1. Byd Hud a Rhamantus yr Oesoedd Canol
  2. Genedigaeth Myrddin a Dyfodiad Morgan
  3. Shamaniaid a Duwiesau - Gwreiddiau hud Arthuraidd
  4. Morgan a'r Swynwragedd yn y llys Arthuraidd.
  5. Cariad a Cholled: Myrddin a Viviane
  6. Dewiniaid a Swynwyr: y Dadeni a Thu Hwnt
  7. Cyfarfod Myrddin a Morgan yng nghasgliadau Arbennig Caerdydd
  8. Dewiniaid Arthuraidd yn llenyddiaeth Cymru: Myrddin a Ganieda
  9. Sifalri ac Arglwyddes y Llyn
  10. Myrddin a Morgan mewn Ffuglen, Ffantasi, a Chelf

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Sieffre o Fynwy, The History of the Kings of Britain, cyfieithiad gan Lewis Thorpe (Hardmondsworth: Penguin, 1966).
  • Sieffre o Fynwy, Life of Merlin, cyfieithiad gan Basil Clarke (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973).
  • John Bollard, 'The earliest Myrddin poems’, yn Arthur in the Celtic Languages: The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions, golygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan ac Erich Poppe (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019).
  • Thelma S. Fenster, Arthurian Women (Efrog Newydd: Routledge, 2009).
  • A.O.H. Jarman, 'The Merlin legends and the Welsh tradition of prophecy’, yn The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature, gol. Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman, a Brynley Roberts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
  • Carolynne Larrington, King Arthur’s Enchantresses: Morgan and her sisters in Arthurian Tradition (Llundain ac Efrog Newydd: I.B. Tauris, 2006).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.