Yr Artist o Arddwr: Cymunedau, Gerddi a Diwylliant Bohemaidd
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Stephen Parker | |
Côd y cwrs | HIS24A5564A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Yn yr oes fodern, enillodd yr 'artist o arddwr' ei blwyf, a daeth arlunwyr ffotograffwyr, awduron a cherflunwyr yn arddwyr.
Bydd y cwrs hwn yn trafod ymagwedd eang a gymerwyd gan artistiaid ac yn canolbwyntio ar gariad yr artist at erddi a blodau a greodd gyfleoedd newydd i arbrofi gyda lliwiau, themâu ac emosiynau, wrth i'r ardd ddod i'r amlwg fel pwnc mawr mewn celf a diwylliant modern.
Byddai'r gerddi hyn yn cyflawni swyddogaeth symbolaidd ac yn rhoi sylwebaeth ar agweddau esthetig a chymdeithasol y cyfnod modern; a byddwn yn canolbwyntio ar y gerddi y maent yn eu creu ac yn paentio, neu'n ysgrifennu amdanynt.
Bydd gerddi sy’n adnabyddus yn ogystal â llawer o erddi preifat yn cael eu trafod, a byddwn yn edrych ar nifer o enghreifftiau ledled Prydain Fawr, Ewrop ac America
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei addysgu drwy ddeg sesiwn dwy awr ar-lein, gan ymgorffori darlithoedd, seminarau a gweithdai. Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.
Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Cynnwys y maes llafur:
- Artistiaid o Arddwyr a’u dulliau arddulliadol, gan gynnwys:
- Arlunwyr
- Ffotograffwyr
- Awduron
- Cerflunwyr
- Artistiaid o Arddwyr fel sylwebaeth ar agweddau cymdeithasol
- Enghreifftiau o gerddi artistiaid mewn lleoliadau cyhoeddus a phreifat ym Mhrydain, Ewrop ac America
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg.
Mae ein dulliau ni wedi’u dylunio i gynyddu eich hyder, ac rydym ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
- Jackie Bennett, The Writer's Garden: How Gardens Inspired our Best-loved Authors (Llundain: Frances Lincoln, 2014)
- Julia Crawford, Mien Ruys: The Mother of Modernist Gardens (Llundain: Lund Humphries, 2023)
- Stephen Parker, England's Gardens: A Modern History (Llundain: Dorling Kindersley, 2023)
- Gwynneth Reynolds a Diana Grace, Benton End Remembered: Cedric Morris, Arthur Lett-Haines and the East Anglian School of Painting and Drawing (Llundain: Unicorn, 2017)
- Sue Snell, The Garden at Charleston: A Bloomsbury Garden through the Seasons (London: Frances Lincoln, 2010)
- Sir Roy Strong, The Artist and the Garden (New Haven and London, Yale University Press, 2005)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.