Ewch i’r prif gynnwys

Meddyginiaethau Llysieuol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddefnydd traddodiadol o blanhigion llysieuol gorllewinol, yn enwedig y rheiny sy'n tyfu'n wyllt neu sy'n hawdd eu meithrin yn y DU, ond gan hefyd ystyried y planhigion a ddefnyddir mewn diwylliannau eraill o gwmpas y byd.

Bydd cyflwyniad i brif systemau'r corff a'r defnydd diogel ac effeithiol o blanhigion ar gyfer anhwylderau cyffredin. Bydd sesiynau ymarferol yn rhoi'r cyfle i ddysgu sut i wneud trwythau llysieuol, trwythau, tinturiau, elïau, olewon a phowltrisiau. Dyma’r pynciau a gwmpesir:

  • alysieueg - strwythur planhigion ac adnabod planhigion - yn yr ystafell ddosbarth ac yn y maes
  • cemeg planhigion
  • olewon naws - cemeg a chynhyrchu
  • anatomeg a ffisioleg ddynol - patholeg systemau’r corff
  • perlysiau at gyflyrau penodol
  • paratoi a chymhwyso: trwythau, tinturiau, olewon, elïau ac hufennau
  • sut mae pherlysiau’n gweithio a’u heffeithiau ffisiolegol
  • meddyginiaeth berlysieuol draddodiadol a’i gwreiddiau - Tsieina, Tibet, yr India a’r Amerig
  • diogelwch yn gyntaf - rhagofalon ac arweiniad ar gyfer defnydd cywir

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn agweddau ymarferol ar feddyginiaeth berlysieuol.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd darluniadol, trafodaethau a gwaith ymarferol.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Hoffman, D. (1996). The Complete Illustrated Holistic Herbal. Element.
  • Mabey, R. (1993). The Complete New Herbal. Penguin. Wren, R.C. (1998). Potter's New Cyclopaedia of Botanical Drugs and Preparations. The C.W. Daniel Company Ltd.
  • Ody, P. (1993). The Herb Society's Complete Medicinal Herbal. Dorling Kindersley.
  • Bown, D. (1995). The Royal Horticultural Society Encyclopedia of Herbs & their Uses. Dorling Kindersley.
  • McIntyre, A. (1994). The Complete Woman's Herbal. Gaia Books.
  • Sullivan, K. (1997). The Complete Family Guide to Natural Home Remedies. Element.
  • Tobyn, G. (1997). Culpeper's Medicine: A practice of western holistic medicine. Element.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.