Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth Crefydd: Cyflwyniad

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Allwn ni brofi bod Duw'n bodoli drwy ddulliau deallusol?

Ydy ffenomenau rydyn ni'n eu ‘profi fel Duw' yn cyfrif fel tystiolaeth ar gyfer cred mewn Bod Uwch? Yn ogystal ag ystyried cwestiynau fel y rhain, mae’r cwrs hefyd yn archwilio sut mae athronwyr wedi ymateb i’r honiad fod 'Duw yn dda' a'r her i’r honiad hwnnw a godir gan fodolaeth dioddefaint.

Bydd y dadleuon a drafodir yn deillio'n bennaf o'r traddodiad athronyddol Gorllewinol; fodd bynnag, cyfeirir at safbwyntiau traddodiadau nad ydynt yn rhai Gorllewinol, fel Bwdhaeth, trwy gydol y cwrs. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o athroniaeth neu astudiaethau crefyddol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i chi drwy Dysgu Canolog.

Mae pynciau yn debygol o gynnwys:

  • Cyflwyniad i athroniaeth crefydd
  • Y ddadl gosmolegol
  • Y ddadl dyluniad
  • Y ddadl o brofiad crefyddol
  • Problem drygioni
  • Bwdhaeth, Islam a Christnogaeth

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu wedi eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio ysgrifennu a all fod ar ffurf beirniadaethau byr o'r testunau, adolygiadau, dadansoddiadau byr o ddamcaniaethau athronyddol, traethawd a/neu unrhyw elfennau priodol eraill. Bydd tua 1,500 o eiriau yn y portffolio.

Deunydd darllen awgrymedig

Mae’n bosibl y bydd y testunau canlynol yn ddefnyddiol i fyfyrwyr fel darllen cefndirol ond darperir rhestr ddarllen lawn ar ddechrau’r cwrs.

  • Clack, Beverley, a Brian Clack, The Philosophy of Religion: A Critical Introduction, 2nd edn (Polity, 2008)
  • Hick, John, Philosophy of Religion, 4th edn (Prentice Hall, 1990)
  • Nagel, Thomas, What Does It All Mean? A Very Short Introduction to Philosophy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.