Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg Maes yng nghanolbarth Cymru

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r ardal fryniog ger Llanfair-ym-Muallt a Cheintun yn cynnwys rhai o greigiau hynaf Prydain, o ddiwedd y cyfnod Cyn-Gambriaidd i'r oes Silwraidd.

Mae’r cwrs hwn yn astudio ymwthiadau igneaidd a gwaddodion cyfandirol, creigiau folcanig a chalchfeini llawn cwrel sy’n cynnwys mwynau copr.

Rydym yn ymweld â lleoliadau sy'n enwog yn genedlaethol, gan gynnwys chwareli gweithredol lle mae'r ddaeareg i'w gweld yn glir, ble gellir casglu mathau o graig, mwynau a ffosilau yn anghyfyngedig. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddaeareg.

Noder y bydd angen ichi wneud eich trefniadau teithio a llety eich hunain. Mae'r amseroedd a'r lleoliadau cwrdd i’w cadarnhau.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Unrhyw un sydd â diddordeb yn y berthynas rhwng y dirwedd bresennol a'r ddaeareg waelodol.

Dysgu ac addysgu

Bydd y daith maes yn cael ei chynnal dros ddau benwythnos a bydd pwyslais ar arsylwi ymarferol a chydnabod nodweddion arwyddocaol.

20 o oriau cyswllt.

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gwyddoniaeth ddaearegol, a daeareg (gan gynnwys tirffurfiau) y maes astudio yn gyntaf, drwy wneud darllen cefndirol o’r daflen wybodaeth a anfonir atynt cyn y cwrs (gan gynnwys testun, mapiau a brasluniau anodedig disgrifiadol); bydd llawer o’r agweddau a ddisgrifir yn y daflen wybodaeth wedyn yn cael eu dangos iddynt yn y maes – a bydd y daflen wybodaeth ar gael iddynt bob amser i gyfeirio ati. Bydd sgiliau maes yn cael eu haddysgu yn ystod y cwrs, gan gynnwys sut i arsylwi a chofnodi, sut i samplu sbesimenau cyfeirio da, a bod yn ymwybodol o agweddau allweddol o ran cadwraeth ddaearegol a diogelwch, a gweithredu arnynt.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

I'w rhannu gan y tiwtor.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.