Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio'r Gorffennol: Hanes

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth yw Hanes?

Bydd y cwrs hwn yn ceisio ateb y cwestiwn hwn trwy gyfres ysgogol o astudiaethau achos ar hunaniaeth yn yr Ynysoedd Prydeinig, o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.

O ble y daw ein hunaniaethau cenedlaethol? Pam rydym ni’n teimlo ein bod ni’n Gymreig neu’n Albanaidd neu’n Wyddelig neu’n Seisnig?

Byddwn yn ystyried materion megis mythau cenedlaethol, ethnigrwydd a syniadau am dreftadaeth, yn ogystal ag archwilio rhai themâu mawr megis beth yw hanes a sut y caiff ei ddefnyddio gan wahanol gymdeithasau.

Wrth wneud hynny, byddwch yn ennill set o sgiliau a fydd yn eich galluogi i gael y mwyaf o astudio’r gorffennol, gan gynnwys dadansoddi ffynonellau, strategaethau ar gyfer ymchwil, llythrennedd gwybodaeth ac ysgrifennu aseiniadau.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy naw sesiwn wyneb yn wyneb. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd a thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad: Pwy ydych chi’n credu ydych chi?
  • Pwy yw'r Celtiaid? Y Celtiaid a Chysyniadau Celtigrwydd
  • Gerallt y Cymro? Gerallt Gymro ac Ysgrifennu Hanes Cymru
  • Cymunedau ar y Cyrion: Ffiniau a Mapio Hunaniaeth
  • Seisnigo Prydain?
  • Gwleidyddiaeth Treftadaeth. 1. Yr Alban a Heneb Wallace
  • Gwleidyddiaeth Treftadaeth. 2. Iwerddon a Threftadaeth Adeiledig Iwerddon
  • Hunan, Eraill a Hunaniaethau Cenedlaethol
  • Casgliad: Hunaniaethau Cenedlaethol

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri darn byr o waith asesedig a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1500 o eiriau.

Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau y mae arnoch eu hangen i astudio’r gorffennol yn llwyddiannus.

Bydd y cyntaf o'r rhain yn eich galluogi i ymarfer rhoi eich syniadau mewn geiriau ar ffurf academaidd. Bydd yr ail yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi ffynonellau, a bydd y trydydd yn rhoi cyfle i chi ysgrifennu traethawd byr. Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer pob un o’r tri aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • B. Anderson, Imagined Communities; Reflections on the Origins and Spread of Nationalism, 4ydd argraffiad (Llundain, 2006, gwr. 1983)
  • R. Bartlett, The Making of Europe: Conquest, Colonization and Cultural Change 950-1350 (Llundain, 1994)
  • R. R. Davies, Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415, 3ydd argraffiad (Rhydychen, 2000, gwr. 1987)
  • P. J. Geary, The Myth of Nations; the Medieval Origins of Europe (Princeton a Rhydychen, 2002)
  • E. J. Hobsbawm a T. Ranger (goln), The Invention of Tradition, 2il argraffiad (Caergrawnt, 1992, gwr. 1983)
  • M. Pittock, Celtic Identity and the British Image (Manceinion, 1999)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.