Cyrsiau rhan amser i oedolion
Cyrsiau rhan amser yn y dyniaethau, ieithoedd, busnes, cyfrifiadura, gwleidyddiaeth a'r gyfraith, gwyddoniaeth a'r amgylchedd, ac astudiaethau cymdeithasol.
Rydyn yn darparu cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein. Bydd dull cyflwyno pob cwrs yn cael ei nodi yn y disgrifiad o bob cwrs.
Byddwn yn symud i 50-51 Plas y Parc yn nhymor y gwanwyn 2024. Os ydych wedi cofrestru ar gwrs sy’n dechrau ym mis Ionawr/Chwefror, gwiriwch leoliad eich cwrs cyn ichi fynd i’r wers gyntaf. Bydd y lleoliad i'w weld ar ôl cadarnhau eich lle ar y cwrs.
Dewch i gael eich ysbrydoli gan ein hamrywiaeth o gyrsiau rhan amser ar lefelau ac ar adegau sy'n eich siwtio chi.
Gallwch hefyd astudio i ennill cymwysterau ac rydym yn cynnig llwybrau at astudio gradd israddedig gyda'r brifysgol.
Yr haf hwn rydym yn cynnig cyrsiau iaith dwys mewn Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Wcreineg. Mae ystod o lefelau ar gael o ddechreuwyr i rai mwy datblygedig.
Newyddion diweddaraf
Rydym ni wedi datblygu nifer o lwybrau i'ch helpu chi i astudio am radd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Darllenwch pam fod astudio cwrs byr gyda ni yn ddewis da.
Y cynlluniau sydd ar gael a'r meini prawf os ydych chi'n chwilio am gymorth ariannol.
Darllenwch sut i gofrestru ar eich cwrs.