Ewch i’r prif gynnwys

Japaneeg i Ddechreuwyr II

Hyd 12 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Terumi Blackmore
Côd y cwrs JPN23A1377B
Ffi £217
Ffi ratach £174 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod i astudio Japaneeg i Dechreuwyr I, neu sy’n meddu ar rywfaint o wybodaeth sylfaenol iawn o Japaneeg.

Nid yw’n addas i ddechreuwyr llwyr yr iaith. Mae’r cwrs yn cwmpasu Katakana a pheth Kanji.  Caiff amrywiaeth ehangach o strwythurau gramadegol eu haddysgu hefyd.

Dyma’r pynciau fydd o dan sylw:

  • bwyta ac yfed
  • siarad am weithgareddau dyddiol
  • lleoli pobl a gwrthrychau
  • disgrifio pobl a gwrthrychau

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • Berf (ffurf masu): amser y dyfodol, presennol a’r gorffennol
  • Ansoddeiriau: amser y dyfodol, presennol a’r gorffennol

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n meddu ar rywfaint o wybodaeth sylfaenol iawn o Japaneeg e.e. wedi cwblhau’r cwrs Dechreuwyr I neu gymwysterau eraill cyfatebol. Nid yw’n addas i ddechreuwyr llwyr.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth.

Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Gwerslyfrau’r cwrs yw: Japanese for Busy People I (Kana version), 3ydd Argraffiad Diwygiedig, AJALT, 2006.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.