Gwella eich Ffrangeg Cam B
Hyd | 28 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Hamid Sahki | |
Côd y cwrs | FRE23A2608A | |
Ffi | £420 | |
Ffi ratach | £336 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 21-23 Ffordd Senghennydd |
Hyd | 28 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Julien Carelli | |
Côd y cwrs | FRE23A2608B | |
Ffi | £420 | |
Ffi ratach | £336 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 21-23 Ffordd Senghennydd |
Byddwch yn ennill digon o sgiliau iaith i ddiwallu anghenion ymarferol mewn sefyllfaoedd syml bob dydd, ac yn meithrin eich dealltwriaeth o ddiwylliant gwledydd lle y siaredir Ffrangeg.
Efallai eich bod wedi astudio Ffrangeg amser maith yn ôl, ac mae’n bosibl ei bod bellach yn rhydlyd (astudio’n rhan-amser am flwyddyn neu TGAU ‘rydlyd’).
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Gwaith cwrs ac asesu
Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.
Deunydd darllen awgrymedig
Llyfr y cwrs yw Talk French 2 Pack - a gyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2007
Ar gyfer astudiaethau personol, gallwch ddod o hyd i ddeunydd ychwanegol yn: Breakthrough French 1, S. Rybak, Palgrave Macmillan, 2003 (nodwch na fyddai hwn yn cael ei ddefnyddio yn y dosbarth).
Yn olaf, byddai’r llyfr gramadeg canlynol yn ddefnyddiol: Grammaire Progressive du Francais, Niveau debutant, M. Gregoire, CLE International, 1999
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.